Caru Ti Mam-Cannwyll Persawrus

£18.00

Rhowch wên ar wyneb eich Mam ar Sul y Mamau eleni gyda’n cannwyll bersawrus ‘Caru Ti Mam’.  Bydd y persawr godidog yn llenwi ei chartref gan greu naws sy’n berffaith ar gyfer ymlacio.  Anrheg berffaith i berson arbennig!

Mae ar gael mewn amrywiaeth o bersawrau.  Gweler y dewis isod:

  • Ambr- persawr soffistigedig, moethus sy’n uno elfennau daearol a melys i greu awel egsotig a hudol.Meddyliwch am ambr, mwsg, fanila, gydag elfennau o sbeisys mwyn, a mymryn o bren gwrywaidd.
  • Diwrnod Spa-i’r rhai sy’n mwynhau arogleuon mwy ffres, adfywiol.  Mae Diwrnod Spa yn cynnwys ffrwythau sitrws, prennau gwyn, a fanila.  Mae’n gwsmeriaid yn dwlu arni!
  • Jasmin-persawr fflurol sy’n cymysgu jasmin, magnolia a mwsg i greu awyrgylch heddychlon a rhamantus. Mae Jasmin yn bersawr weddol newydd i Gweni ac sy’n boblogaidd iawn.

(Mae cannwyll ‘Love You Mum’ hefyd ar gael o’r wefan Cannwyll Bersawrus Love You Mum).

Disgrifiad

Mae pob cannwyll yn cynnig 25cl o gwyr soi persawrus.  Gwnaed pob un mewn niferoedd bychan, yn ein cartref yn ne Cymru.

Os gwelwch yn dda, dilynwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau wrth gynnau’n canhwyllau.

Mae’n bosib i chi dychwelyd eich gwydrau, photiau, a blychau i ni i’w ail-gylchu.  Cysylltwch â ni i drefnu.

Gofal Canhwyllau.

Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon.  I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.

  • Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
  • Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
  • Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol.  Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
  • Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal.  Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm.  Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
  • Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr

Ambr, Diwrnod Spa, Jasmin