Termau ac Amodau
Y wefan, Gweni, a chi,
Gweithredir y wefan www.gweni.cymru neu www.gweni.co.uk gan Gweni ac mae unrhyw gyfeiriadau atom ´ni´ ac ´ein´ yn cyfeirio at Gweni. Mae unrhyw gyfeiriadau atoch ´chi´ neu ´eich´ yn cyfeirio at y prynwr, sef y person sy´n gwneud archeb ar y wefan.
Ein enw yw Gweni a chyfeiriad y prif leoliad busnes yw:
42 Pwll Evan Ddu, Coety, Penybont ar Ogwr, CF35 6AY.
Ein cyfeiriad e–bost yw post@gweni.co.uk â’n rhif ffôn yw 01656 662829.
Busnes preifat yw Gweni.
Mae´r prisiau ar y wefan yn gywir ac yn cynnwys TAW ar y gyfradd gyfredol. Cedwir yr hawl i godi prisiau.
Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod pob disgrifiad, llun a manylion cynnyrch, yn gywir. Cedwir yr hawl i newid manylion y cynnyrch yn ddirybudd
ARCHEBU
Wrth wneud archeb gyda Gweni, rydych wedi darllen, deall a chytuno gyda’r telerau ac amodau. Yn yr amgylchiadau eich bod yn anhapus gydag unrhyw elfen o’r telerau yma, cysylltwch â ni cyn gwneud archeb, drwy ffonio ni ar 01656 662829, anfon ebost at post@gweni.co.uk, neu lythyr i 42 Pwll Evan Ddu, Coety, Penybont ar Ogwr, CF35 6AY.
Wrth archebu nwyddau ar y wefan yma, rydych chi’n cynnig prynu’r nwyddau a nodir yn eich archeb i Gweni yn unol â’r telerau ac amodau a ddisgrifir yn eich archeb. Byddwn ni’n eich cydnabod ar ôl derbyn eich archeb ond ni fydd hyn yn cadarnhau ein bod yn derbyn eich cais i brynu´r nwyddau. Bydd cytundeb am werthiant y nwyddau rhyngoch chi a Gweni yn dod i rym ar ôl i´r archeb gael ei dderbyn, ei brosesu a´i anfon atoch.
Gall y nwyddau sydd ar gael, a’u prisiau, newid yn ddi-rhybudd.
TALIADAU A THRETHI
Derbyniwn daliadau ar–lein mewn amgylchedd diogel. Ar hyn o bryd, derbyniwn VISA, MASTERCARD, MAESTRO, SOLO a PAYPAL. Dangosir pob gwerthiant mewn punnoedd sterling (£).
Mae pob pris a ddyfynnwyd ar y wefan yma, yn gywir ar adeg ei chyhoeddi ac mewn punnoedd sterling (£), a, lle bo´n briodol, yn cynnwys Treth Gwerthiant a TAW y DU. Y gyfradd TAW bresennol yw 20%.
LIABILITY
Gweni will not be liable in respect of customer or third party recipient failure to comply with product safety instructions resulting in wilful damage to/or loss of, whether direct or consequential, to personal property.
EICH HAWL I GANSLO
Fel arfer, cewch ganslo eich archeb am unrhyw reswm cyn i´r nwyddau gael eu postio. Os byddwch yn canslo´r cytundeb yn ystod yr amser yma, fe ad–dalwn unrhyw daliad a wnaethoch o fewn 14 diwrnod. Mae gennych hawl i ganslo eich archeb hyd at 14 diwrnod ar ôl derbyn eich nwyddau, a rhoddir ad–daliad llawn.
POLISI AD–DALU/DYCHWELYD NWYDDAU
Mae Gweni yn wir obeithio y byddwch chi´n hapus gyda´ch nwyddau, ond, os nad yw’r nwyddau yn eich plesio, gallwn gyfnewid eich eitem neu gynnig ad–daliad. Bydd angen i chithau ddychwelyd yr eitemau o fewn 14 diwrnod o´u derbyn.
Dychwelwch eitemau i´r cyfeiriad canlynol:
Gweni, 42 Pwll Evan Ddu, Coety, Penybont ar Ogwr. CF35 6AY.
AMODAU AR GYFER DYCHWELYD NWYDDAU
Gofynnir i chi ddychwelyd eitemau o fewn 14 diwrnod o´u derbyn, heb eu defnyddio, a gyda´r tagiau a´r pecyn gwreiddiol yn gyflawn. Gellir lawrlwytho ffurflen o´r wefan neu gallwn e–bostio ffurflen dychwelyd nwyddau atoch chi. Cwblhewch ac amgáu´r ffurflen wrth eu hanfon yn ôl, a chofiwch nodi´r rheswm dros eich anfodlonrwydd.
NWYDDAU WEDI´U DIFRODI
Os bydd eich nwyddau wedi’u difrodi a/neu’n ddiffygiol, cysylltwch â ni ar unwaith ar 01656 662829, neu e-bostiwch post@gweni.co.uk
POSTIO
Yn anffodus, ni allwn dalu am y tâl postio os byddwch chi’n dychwelyd eitemau atom. Argymhellwn eich bod yn defnyddio cludiant cofrestredig wedi’i yswirio ac yn cadw’r dderbynneb yn ddiogel. Ni fyddwn yn atebol am nwyddau a gollir ac a ddifrodir wrth gael eu cludo. Ni fyddwn chwaith yn gyfrifol am daliadau llog a wneir gan gwmni eich cerdyn credyd cyn bod yr arian am nwyddau sydd wedi’u dychwelyd wedi’i ad-dalu i chi.
I bostio nwyddau, rydym ni’n defnyddio’r cwmnïau cludo canlynol: Y Post Brenhinol a Parcel Force. Os hoffech ddychwelyd unrhyw eitem, efallai byddai’r rhain o ddiddordeb i chithau hefyd.
Os hoffech siarad â ni am nwyddau i´w dychwelyd, plis cysylltwch â ni ar 01656 662829, neu e–bostiwch post@gweni.co.uk