Gofal Canhwyllau
A wyddoch fod gan bob cannwyll atgof?
Maeโr llosg cyntaf yn gwbl bwysig i fywyd hir y gannwyll.
Sicrhewch y byddwch o gwmpas i alluogiโr pwll toddi i gyrraedd ochr y cynhwysydd. Efallai fydd hyn yn cymryd rhyw ddwy awr neu mwy; maeโn hollol ddibynnol ar faint y cynhwysydd. Amcan gyfrifwch y bydd y soi yn toddi tua un fodfedd ym mhob awr. Os ddiffoddwch y gannwyll o fewn hanner awr, dywedwch, ni fydd y gannwyll yn llosgi tu hwnt i led y toddi cyntaf. Fyddwch yn gwastraffu llawer o gwyr.
Pa mor hir y dylech losgiโr gannwyll?
Sicrhewch ni fyddwch yn llosgiโr gannwyll am fwy na pedair awr bob tro, ac, yn ddelfrydol, am tua 2-3 awr. Os losgwch y gannwyll yn hirach na hyn, fe gewch fflam mawr/uchel, sydd yn fwy tueddol o gynhyrchu gormod o garbon neu huddygl. Mae hefyd yn fwy tebygol o ddechrau tรขn wrth iddo losgi yn uwch naโr cynhwysydd.
Diffoddiโch cannwyll.
ffordd fwyaf diogel o ddiffoddiโr gannwyll yw defnyddio snwffiwr!
Mae hyn yn osgoi trochiโr cynhwysydd gyda huddygl, a hefyd yn lleihauโr posibilrwydd oโr fflam i ddod mewn cyswllt i unrhyw beth fflamadwy. Cewch snwffwyr ar y wefan yma. Maent hefyd yn gwneud anrhegion da iโr rheina syโn dwlu ar ganhwyllau.
Cyn mynd ati i losgiโr gannwyll yn y dyfodolโฆ
Torrwch y wic gyda theclyn arbennig, neu siswrn, i daldra o thua 3-5 mm. Bydd hyn yn gwareduโr rhan oโr wic sydd yn llawn o garbon, ac yn cynhyrchu gwell fflam. Allwch brynu teclyn arbennig i dorriโr wic ar y wefan yma.
I losgi reit i waelod y cynhwysydd, neu na?
Yr ateb syml yw na! I osgoi unrhyw siawns o ddifethaโr cynhwysydd, yna sicrhewch eich bod yn gadael tua 2-3 mm o gwyr ar y gwaelod. Os na wnewch chi hyn, mae โna siawns y gwnaeth y cynhwysydd ordwymo gyda gwres y fflam, a thorri.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am yr hyn sydd uchod, yna cysylltwch gyda ni.