Amdano Gweni
Croeso!
Croeso i’n wefan o aroglau arbennig i’r cartref, a maldod maethlon i chi… i gyd o Gymru! Rydym yn hynod o falch o bob dim rydym yn gynhyrchu, ac wrth ein bodd i’w rannu gyda chi.
Credwn fod ein cynnyrch ymysg y rhai gorau sy’ ar y farchnad. Boed eich bod yn hoff o arogleuon blodeuog neu ffres, mwyn neu mwsgi, byddwch yn sicr o ddarganfod rhywbeth wrth eich bodd.
Dechreuon rhai blynyddoedd nôl wrth wneud canhwyllau mewn hen boteli jam, gyda phapurau blodeuog dros y cloriau. Mae’r dyddie ‘ma yn teimlo fel oes yn ôl, ond roedd y canhwyllau’n boblogaidd pan es i â nhw i Dafwyl, yng Nghaerdydd, ac fe aeth o fan ‘ny!
Gwnaed pob dim â llaw, gyda llawer iawn o ofal, ac mewn niferoedd bychan. Mae hyn yn galluogi i ni gynhyrchu nwyddau o safon uchel, y byddwch chi yn dwlu arnynt. Rydym hefyd yn falch iawn ein bod yn defnyddio cwyr soi, sy’n ecogyfeillgar a chynaliadwy. Mae ystyried llosgi canhwyllau paraffin yn ein cartref yn gwbl estron i ni, ac rydym yn sicr eich bod chi yn cytuno. Mae cwyr soi yn llosgi’n lanach, yn hirach, ac yn fwy araf. S’dim mwy i ddweud!
Credwn hefyd mewn fod mor eco-gyfeillgar a phosib, ac yn cynnig wasanaeth o ail-lenwi eich gwydrau/tuniau canhwyllau gyda’r un arogl, neu arogl gwahanol, am bris rhatach nag yn wreiddiol!
Rydym ‘ni’ yn cael ein harwain gan y fi, Amanda, sydd wrth fy modd yn braslunio, cerdded y cwn, cloncian, coginio, crosio (hobi newydd), darllen, paentio, ac ymlacio o flaen y tan wrth losgi un o’n canhwyllau.
Teyrnged i’n nith fach, Gwen, yw’r enw Gweni, sydd hefyd yn debyg iawn i’r gair ‘gwenu’; gair addas iawn i ddisgrifio’n balchder wrth losgi ein canhwyllau! Enwir casgliad ‘Catrin’ ar ôl chwaer fach Gwen, Catrin, sy’n tacluswraig arbennig!
Rydym yn hapus iawn i ateb unrhyw gwestiwn am ein cynnyrch; ma croeso mawr i chi gysylltu gyda ni. Rydym hefyd yn awyddus i sgwrsio gyda chi am wneuthuriad unigryw, personol, megis ffafrau priodas, neu ganhwyllau ar gyfer achlysur arbennig.
Dymuniadau gorau i chi,
Amanda