Disgrifiad
Mae’r gannwyll Eirin Du a Rhosyn yma’n arogli’n felys, yn flodeuog, ac yn soffistigedig iawn, ac yn addas fel anrheg neu fel trît i chi eich hun! Cewch gymysgedd o eirin, aeron du, jasmin, patshwli, fanila a mwsg i greu cannwyll arbennig. Cynnwch hon, a mwynhewch!
Gwnaed â llaw mewn niferoedd bach, yng Nghymru. Mae pob un o’n canhwyllau wedi cael eu wneud o gwyr soi.
Ail-ddefnyddiwch y poteli, neu dychwelwch nhw i ni i gael eu hail lenwi, neu am gannwyll newydd am bris rhatach!
Peidiwch byth gadael cannwyll i losgi heb oruchwyliaeth. Am gyngor o sut i losgi canhwyllau yn ddiogel, darllenwch Gofal Canhwyllau.