Love You Mum-Cannwyll Persawrus

£19.95

Rhowch wên ar wyneb eich Mam ar Sul y Mamau eleni gyda’n cannwyll bersawrus ‘Love You Mum’.  Bydd y persawr godidog yn llenwi ei chartref gan greu naws sy’n berffaith ar gyfer ymlacio.  Anrheg berffaith i berson arbennig!

Mae ar gael mewn amrywiaeth o bersawrau.  Gweler y dewis isod:

  • Ambr- persawr soffistigedig, moethus sy’n uno elfennau daearol a melys i greu awel egsotig a hudol.Meddyliwch am ambr, mwsg, fanila, gydag elfennau o sbeisys mwyn, a mymryn o bren gwrywaidd.
  • Diwrnod Spa-i’r rhai sy’n mwynhau arogleuon mwy ffres, adfywiol.  Mae Diwrnod Spa yn cynnwys ffrwythau sitrws, prennau gwyn, a fanila.  Mae’n gwsmeriaid yn dwlu arni!
  • Jasmin-persawr fflurol sy’n cymysgu jasmin, magnolia a mwsg i greu awyrgylch heddychlon a rhamantus. Mae Jasmin yn bersawr weddol newydd i Gweni ac sy’n boblogaidd iawn.

(Mae cannwyll ‘Caru Ti Mam’ hefyd ar gael o’r wefan Cannwyll Bersawrus Caru Ti Mam).

Disgrifiad

Mae pob cannwyll yn cynnig 25cl o gwyr soi persawrus.  Gwnaed pob un mewn niferoedd bychan, yn ein cartref yn ne Cymru.

Os gwelwch yn dda, dilynwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau wrth gynnau’n canhwyllau.

Mae’n bosib i chi dychwelyd eich gwydrau, photiau, a blychau i ni i’w ail-gylchu.  Cysylltwch â ni i drefnu.

Gofal Canhwyllau.

Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon.  I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.

  • Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
  • Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
  • Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol.  Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
  • Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal.  Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm.  Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
  • Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr

Ambr, Diwrnod Spa, Jasmin

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.