Set Anrheg Foethus Gweni-dewiswch eich persawr

£48.50

Dyma Set Anrheg Foethus o Gymru sy’n cynnwys cannwyll soi persawrus Gweni, Hufen a Sebon i’r Corff a Dwylo mewn arogleuon hardd — wedi’i chyflwyno mewn bocs anrheg foethus.

Dewiswch o amrywiaeth o bersawrau godidog.

Disgrifiad

Wedi’i chreu yng Nghymru, mae’r Set Anrheg Foethus hon yn cynnig cynhesrwydd a gofal bob dydd mewn un bocs anrheg hardd. Yn cynnwys cannwyll soi, a Hufen a Sebon Dwylo a’r Corff yn eich dewis chi o’n persawrau mwyaf poblogaidd.

Mae’r set gyfoes hon yn anrheg berffaith ar gyfer penblwyddi, i ddweud ‘Diolch’, neu at unrhyw un sy’n gwerthfawrogi ychydig o foethusrwydd Cymreig yn eu cartref.

Dewiswch o’r persawrau hyfryd yma: 

  • Croesi’r Traeth-persawr arfordirol a ffres â fydd yn eich tywys nôl at atgofion o draeth yn yr haf.  Mae’n cynnwys syclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
  • Diwrnod Spa:  yma, cewch gyfuniad adfywiol a thrawiadol o lemonwellt, sinsir, sitrws, a phrennau gwyn.  
  • Eirin Du a Rhosyn:  eirin, rhosod a patsiwli sy’n cyfuno i greu persawr soffistigedig, dwfn, a fflurol. 
  • Hwyrnos-persawr mwyn, perffaith at ymlacio, mae hon yn cynnwys jasmin, ambr a chedrwydden. 

Mae’r cannwyll yn cynnig 25 cl o bersawr soi â fydd yn para am tua 40-50 awr (sicrhewch eich bod chi’n darllen ein Canllawiau Gofal Canhwyllau).

Mae’r Hufen a Sebon Corff a Dwylo yn cael eu cyflwyno mewn poteli 250ml.  

Mae’n bosib ail gylchu’r poteli gwydrau i gyd.  

Ddi-Greulon.  Ddi-Paraben.  Figan.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr

Croesi'r Traeth, Diwrnod Spa, Eirin Du a Rhosyn, Hwyrnos

Our brand new Pick & Mix soy wax melts are now LIVE on the website! Find them under 'MELTS'.

Mae'n toddgwyr soi newydd sbon 'Pic a Mics' nawr yn fyw ar y wefan ac ar gael yn yr adran 'TODDGWYR'.