Tryledwr Ystafell Bersawrus-dewiswch eich persawr

£24.00

Llenwch eich cartref gyda phersawr braf a godidog, a fydd yn para am gryn dipyn o amser, gyda Thryledwyr Ystafell Bersawrus Gweni.  

Gan gynnwys 10 cl o hylif persawrus, a fydd yn trawsffurfio’r cartref mewn i ofod unigryw, dymunol, mae’r tryledwyr yma ar gael yn eich hoff bersawrau, ac mewn dewis o gyrs ffibr.

Disgrifiad

Tryledwr Ystafell Bersawrus Llenwch eich cartref gyda phersawr braf a godidog, a fydd yn para am gryn dipyn o amser, gyda Thryledwyr Ystafell Bersawrus Gweni.  Gan gynnwys 10 cl o hylif persawrus, a fydd yn trawsffurfio’r cartref mewn i ofod unigryw, dymunol, mae’r tryledwyr yma ar gael yn eich hoff bersawrau, ac mewn dewis o gyrs ffibr. Dewiswch o’r opsiynau isod.

Persawrau Fflurol.
  • Eirin Du a Rhosyn:  dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
  • Fflur: bydd y persawr rhyfeddol hwn yn eich atgoffa o gerdded trwy ardd sydd dan ei sang o flodau’r haf, rhosod, pys pêr, a jasmin.
  • Hiraeth: am air sy’n golygu sut gymaint.  Hiraethu am berson, am le, am amser….  Dyma bersawr sy’n hiraethlon, gyda’i chyfuniad o fioled, rhosod, mynawyd y bugail ac ambr.
  • Peian: persawr hudolus, soffistigedig sy’n cyfuno rhosod, peian, lilis ac ambr.
Ffres.
  • Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol.  Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
  • Diwrnod Golchi Dillad:  persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus.  Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
  • Diwrnod Spa:  persawr bydd yn eich atgoffa o spa foethus, gyda’i ‘hoglau ffres o ffrwythau sitrws, patsiwli, pren gwyn a fanila.  Un o’n gwerthwyr gorau
  • Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys.  Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin.  Hyfryd.
  • Nos Da:  dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol.  Perffaith mewn ystafell wely.
Ffrwythus.
  • Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
  • Gwawrio:  arogl bywiog ac adfywiol sy’n cyfuno grawnffrwyth, oren, jasmin a mwsg. Mae’n arogl ysgogol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am arogleuon egnïol. Mae gennym ni yn yr ystafell ymolchi— ac mae’n arogl gwych i ddeffro iddo!
  • Mifi Mafon: persawr felys, ffrwythus, sy’n cynnwys elfennau o naws mafon a fanila.  Mae’n hel atgofion o lolipops ffrwythus!
  • Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Hydrefol/Cysurlon
  • Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’  Mae’n soffistigedig a chymhleth.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!

Mae yna ddewis, hefyd, o gyrs ffibr, lliw naturiol neu du, hir neu fyr.  Os mae gwell gennych y cyrs hir, yna byddwch yn derbyn 8 darn.  Os mae gwell gennych y cyrs byr, yna 5 cors y byddwch yn derbyn.  Defnyddiwch y rhain i gyd, ar unwaith, oni bai eich bod eisiau arogl mwy cain neu wannach. Darllenwch ymlaen os hoffwch wybodaeth am gael y gorau o’ch tryledwr. Para’n Hir.   Fe fydd pob tryledwr yn para tua 6 mis, a mwy.  Sicrhewch eich bod yn:

  • siglo’r botel yn ofalus cyn ei hagor
  • rhoi’r cyrs ffibr i mewn (defnyddiwch bob un)
  • gosodwch mewn lle i ffwrdd o wresogydd, a golau haul cryf
  • trowch y cyrs gôr i waered pob tair wythnos
  • rhowch a’r goster i sicrhau na fydd unrhyw hylif yn sarnu ar eich celfi

Gwnaed â llaw yn ne Cymru, mae pob tryledwr yn cael ei greu mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr Tryledwr 1

Ambr, Cnau Coco, Croesi'r Traeth, Cwtsh, Diwrnod Golchi Dillad, Diwrnod Spa, Eirin Du a Rhosyn, Ffigysen Felfed, Fflur, Gwawrio, Hiraeth, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Jasmin, Llonyddwch, Mifi Mafon, Nos Da, Noson Olau Leuad, Peian, Riwbob, Stafell Ddarllen

Reed Colour

Cyrs Ffeibr Naturiol, Du

Reed Size

Cyrs Byr, Cyrs Hir

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.