Sisial Sitrws-Cannwyll Gardd Gyda Sitronela a Gwair Lemwn

£16.00

Mae’r Sisial Sitwrs, sef ein Cannwyll Gardd gyda Sitronela a Gwair Lemwn yn berffaith i chi pan mae’r haul yn tywynnu a s’dim byd arall ar y gorwel ond ymlacio gyda chwmni ffrindiau-neu llyfr!  Gan gynnwys cwyr soi naturiol, a chymysgedd o olew naws godidog, mae’n berffaith i greu awyrgylch hamddenol ac i waredu ar yr hen glêr man! Cyflwynwyd mewn tun du steilus, sydd yn saffach na gwydr, a wic pren (sydd ddim yn craclio’n swnllyd!).  Cewch tua 24 cl o gwyr soi persawrus.

Mewn stoc

Disgrifiad

Mae’n ‘Sisial Sitrws’ sef ein Cannwyll Ardd gyda Sitronela a Gwair Lemwn yn berffaith i chi pan mae’r haul yn tywynnu a s’dim byd arall ar y gorwel ond ymlacio gyda chwmni ffrindiau-neu llyfr!  Gan gynnwys cwyr soi naturiol, a chymysgedd o olew naws godidog, mae’n berffaith i greu awyrgylch hamddenol ac i waredu ar yr hen glêr man!  Mae’r gwair lemwn yn felys ffres, ac yn gweithio’n arbennig gyda sitronela i greu persawr adfywiol a fywiogus.  Ac, wrth gwrs, bydd y sitronela’n atal y glêr.  Felly, ewch i nôl eich hamoc, eich llyfr, cynnwch y gannwyll, a mwynhewch! 

Os nad ydych yn hoff o sitronela, yna rydym yn sicr byddwch yn hapus gyda’r cymysgedd hwn.  

Cyflwynwyd mewn tun du steilus, sydd yn saffach na gwydr, a wic pren (sydd ddim yn craclio’n swnllyd!).  Cewch tua 24 cl o gwyr soi persawrus. 

Gwnaed â llaw yn ne Cymru.

I gael y gorau allan o’n cannwyll gardd, yna darllennwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.

You may also like…