Disgrifiad
Mae Gwawrio yn gannwyll bersawrus hyfryd i’ch cartref, sy’n cyfuno persawrau ffres grawnffrwyth, lemon, a mwsg, i greu naws adfywiol, siriol. Meddyliwch am fore braf, yn mwynhau brecwast yn yr ardd, a dyma chi!
Ar gael mewn amrywiaeth o feintiau. Dewiswch o’r fwydlen isod.
Mae pob cannwyll Gweni yn cael ei greu o gwyr soi, ac mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd, yn ne Cymru. Ail-ddefnyddiwch y gwydr, neu dychwelwch e i mi, i mi gael ei ail-lenwi am bris rhatach i chi.
Gofal Canhwyllau.
Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon. I gael y gorau oโch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi iโr pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy โna 4 awr.
- Gwnewch yn siลตr fod pob cannwyll yn cael ei gadwโn unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad ywโr wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os maeโr wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes โna unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Os hoffwch fwy o wybodaeth, yna darllenwch y tudalen yma: Gofal Canhwyllau.