Disgrifiad
Llenwch eich cartref gydag arogl nodedig ein Cannwyll Bersawrus Stafell Ddarllen. Gan gynnwys cymysgedd soffistigedig o sbeisys twym, awgrym o frandi, pren myglyd, a mwsg tywyll, mae’n gannwyll berffaith i losgi os rydych am greu awyrgylch tawel, clyd.
Gwnaed â llaw mewn niferoedd bach, yng Nghymru. Mae pob un o’n canhwyllau wedi cael eu wneud o gwyr soi.
Ail-ddefnyddiwch y botel, neu gallwch ei ddychwelyd i ni i gael eu hail lenwi. Gallwch, hefyd, gael cannwyll newydd am bris rhatach!
Canllawiau Gofal Canhwyllau.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Os hoffwch fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Gofal Canhwyllau.