Disgrifiad
Tryledwr Ystafell Bersawrus Steil Apothecari
Llenwch eich cartref gyda phersawr braf a godidog, a fydd yn para am gryn dipyn o amser, gyda Thryledwyr Ystafell Bersawrus Steil Apothecari. Gan gynnwys 20 cl o hylif persawrus, a fydd yn trawsffurfio’r cartref mewn i ofod unigryw, dymunol, mae’r tryledwyr yma ar gael yn eich hoff bersawrau, ac mewn dewis o gyrs ffibr. Fe ddylai hwn bara am i fyny at flwyddyn.
Dewiswch o’r bwydlenni isod.
Persawrau Fflurol.
- Eirin Du a Rhosyn: dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
- Jasmin: magnolia, jasmin, gardînia a mwsg sy’n uno i greu persawr ysgafn a chain.
- Rhosyn Fioled: persawr cymhleth a braf, gyda rhosod, rhosyn y mynydd, a mwsg, yn creu arogl i godi’r ysbryd!
Ffres.
- Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol. Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
- Diwrnod Golchi Dillad: persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus. Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
- Diwrnod Spa: poblogaidd iawn, mae’r gwair lemwn, leim, ac oren yn uno gyda sinsir a phrennau gwyn i greu persawr adfywiol tu hwnt.
- Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys. Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin. Hyfryd.
- Nos Da: dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol. Perffaith mewn ystafell wely.
- Porth Mawr: dyma bersawr hyfryd, arfordirol, gyda chyfuniad o eirin gwlanog, cnau cocos, jasmin, a mwsg. Mae’n drofannol ac yn cynnig naws y môr. Hyfryd!
Ffrwythus.
- Eden: gyfuniad o gwrens du, lemwn, siclamen, pîn ac eirinen, sy’n adfywiol a braf.
- Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
- Gwawrio: dyma bersawr sy’n hyfryd mewn ystafell ‘molchi, neu yn y gegin, achos o’i naws adfywiol, ffrwythus. Mae yma elfennau o rawnffrwyth, oren, jasmin, a mwsg. Unigryw iawn!
- Hwyl a Sbri: persawr poblogaidd iawn! Mae’n bersawr llon, gyda llugaeron, ffrwythau’r goedwig, afal, a mwsg.
- Mifi Mafon: fel lolipops ers talwm, dyma fafon a fanila yn dod at ei gilydd i greu persawr hafaidd, hyfryd! Mae’n wych mewn tryledwr!
- Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Prennaidd/Wrwyaidd
- Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’ Mae’n soffistigedig a chymhleth.
- Hwyrnos: tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
- Stafell Ddarllen: persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys. mae’n boblogaidd tu hwnt!
Mae yna ddewis, hefyd, o gyrs ffibr, lliw naturiol neu du, hir neu fyr. Os mae gwell gennych y cyrs hir, yna byddwch yn derbyn 8 darn. Os mae gwell gennych y cyrs byr, yna 5 cors y byddwch yn derbyn. Defnyddiwch y rhain i gyd, ar unwaith, oni bai eich bod eisiau arogl mwy cain neu wannach.
Para’n Hir.
Fe fydd pob tryledwr yn para tua 6 mis, a mwy. Sicrhewch eich bod yn:
- siglo’r botel yn ofalus cyn ei hagor
- rhoi’r cyrs ffibr i mewn (defnyddiwch bob un)
- gosodwch mewn lle i ffwrdd o wresogydd, a golau haul cryf
- trowch y cyrs gôr i waered pob tair wythnos
- rhowch a’r goster i sicrhau na fydd unrhyw hylif yn sarnu ar eich celfi
Gwnaed â llaw yn ne Cymru, mae pob tryledwr yn cael ei greu mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd.