Disgrifiad
Mae Hufenau a Sebonau Persawrus Gweni yn boblogaidd mewn llawer o gartrefi. Maent yn foethus gan adael i’ch croen teimlo’n lân, wedi ei leithio, ac wedi ei bersawru’n ysgafn. Felly, beth am sbwylio’ch hun gyda’r cynnig o brynu dwy botel am £26?
Gallwch brynu dau o’r un fath, dau wahanol efallai nad ydych wedi trio o’r blaen, neu brynu un i chi ac un fel anrheg. Mae’r dewis lan i chi!
Mae’n Hufenau a Sebonau Moethus ar gael mewn sawl un o’ch hoff bersawrau.
Dewiswch o:
Croesi’r Traeth: arfordirol a bywiogus, sy’n atgoffa ni o draethau gorllewin Cymru. Mae’n ffres, ac yn cynnwys siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
Diwrnod Spa: adfywiol, a ffres, gyda naws ffrwythau sitrws a sinsir. Mae’n ffefryn gyda’n cwsmeriaid.
Eirin Du a Rhosyn: fflurol, a ffrwythus gydag ychydig o batsiwli i wrthweithio’r melyster i greu persawr soffistigedig a phoblogaidd iawn.
Hwyrnos: ambr, jasmin a chedrwydden, sy’n creu persawr gwrywaidd, ysgafn, a feddal.
Caiff pob un ei thywallt yn nhe Cymru.
Ddi Greulon. Ddi Paraben. Figan.
Mae pob hufen a sebon yn cael ei gyflwyno mewn potel maint 250ml, sy’n medru cael ei ail-gylchu, gyda phwmp i’w wneud yn hawdd defnyddio.









