Disgrifiad
Yn cynnwys cymysgedd soffistigedig o sbeisys twym, pren myglyd, a mwsg tywyll, bydd tryledwr ystafell ‘Stafell Ddarllen’ yn tywys eich dychymyg i lyfrgell hen ffasiwn mewn hen blasty! Mae’n perarogli’n drawiadol, gwrywaidd, a chwbl byth cofiadwy!
Dewiswch o unai 8 cors ffibr hir, tenau, neu 5 cors ffibr trwchus, byr. Mae’r ddau steil ar gael mewn lliw du, neu naturiol, i weddi eich cartref. Cewch gwmws yr un maint o bersawr gyda’r ddau, ac fe ddylai bob un bara am thua 4-6 mis (ag yn fwy, yn aml). Trowch y cyrs o gwmpas bob 3-4 wythnos, a gwnewch yn siŵr i gadw’r hylif i ffwrdd o gelfi, gan ddefnyddio ‘coaster’ oddi dan y botel.
Ar ôl i chi orffen y tryledwr, dewch a’r botel nôl i gael ei ail-lenwi, neu gallwch brynu adlenwad oddi wrthym.
Cyfaint: 10cl.