Disgrifiad
Mae’n gannwyll Mifi Mafon yn ffrwydrad o felyster haf — cymysgedd o aeron suddlon, sitrws adfywiol a blodau meddal sy’n dod â naws hyfryd i’r ystafell. Mae rhosyn, jasmin a fioled yn ychwanegu naws tyner, tra bod pren meddal, ambr a mwsg yn cynnig teimlad o gynhesrwydd a chysur.
Persawr hapus, siriol, ac eto, hiraethlon, sy’n atgoffa ni o ddiwrnodau heulog a hwyl ddi-ben-draw.
Elfennau o’r persawr:
- Cyntaf: Grawnffrwyth, lemwn, mefus, mafon, duon, pinafal
- Nesaf: Rhosyn, jasmin, fioled
- Yn Olaf: Pren meddal, ambr, mwsg
Gwnaed â llaw mewn niferoedd bach yng Nghymru. Defnyddir cwyr soi yn unig.
Os gwelwch yn dda, dilynwch y Canllawiau Gofal Canhwyllau yma. Beth am ail-ddefnyddio’r pot, neu anfonwch nôl i Gweni i’w ail-lenwi?




