Disgrifiad
Mae casgliad CATRIN mewn steil apothecari, hynny yw, gwydrau hen ffasiwn mewn lliw ambr, ac yn berffaith mewn cartref cyfoes a thraddodiadol. Maen nhw ar gael mewn tri phersawr: Cnau Coco, Diwrnod Spa, a Ffigysen Felfed.
Persawr soffistigedig, a ffrwythus sydd gan Ffigysen Felfed, gydag elfennau o bersawr aeron cymysg, cwrens duon, mafon, a sandalwydden. Mae’n hynod boblogaidd ac un o’m ffefrynnau!
Gwnaed y rhain â llaw mewn niferoedd bach yn ne Cymru, o gwyr soi. Mae’r gannwyll hon yn dal 15cl o gwyr, ac yn cynnig tua 25 awr o bersawr prydferth (darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau am awgrymiadau o sut i gael y persawr gorau o’ch cannwyll).