Disgrifiad
Dewch ag aroglau fflurol yr ardd i mewn i’r tŷ gyda’n Cannwyll Bersawrus Jasmin. Yn cynnwys elfennau cain o jasmin a magnolia, fe fydd hon yn llenwi’ch cartref gyda phersawr trawiadol a chyfoes.
Gwnaed ein Cannwyll Bersawrus Jasmin yng Nghymru, mewn niferoedd bach. Defnyddiwn gwyr soi naturiol. Mae modd ail-gylchu’r gwydrau, neu dychwelwch i ni i’w ail lenwi.
Canllawiau Gofal Canhwyllau.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Am fwy o wybodaeth, yna ewch draw i’n tudalen Canllawiau Gofal Canhwyllau.