CATRIN-Tryledwr Persawrus (dewis o dri phersawr)

£30.00

Tryledwr Catrin-mewn steil apothecari

Dyma dryledwr steilus a chyfoes, a fydd yn weddi pob cartref.  Mae’n cynnwys 20cl o bersawr godidog, a fydd yn llenwi’ch cartref gyda naws hyfryd am tua 8-12 mis.  Dewiswch o: Cnau Coco, Diwrnod Spa, neu Ffigysen Felfed.  

Disgrifiad

Tryledwr Catrin-mewn steil apothecari

Dyma dryledwr steilus a chyfoes, a fydd yn weddi pob cartref.  Mae’n cynnwys 20cl o bersawr godidog, a fydd yn llenwi’ch cartref gyda naws hyfryd am tua 8-12 mis.  Gwnaed pob un â llaw yn ne Cymru.

Ar Gael Mewn Tri Phersawr, a Ddau Liw o Gyrs.

Gwnewch eich dewisiadau o’r bwydlenni priodol.  Dyma’r persawrau:

  • Cnau Coco-persawr trofannol a ffrwythus fydd yn eich hatgoffa o wyliau yn yr haul, a choctel yn eich llaw!  Mae’n cynnwys elfennau o gnau-coco, pîn-afal, eirin wlanog, almwn,  a mwsg.  
  • Diwrnod Spa-dyma phersawr poblogaidd tu hwnt, gyda’i naws sitraidd a sinsir sy’n creu awyrgylch ymlaciol o ddiwrnod yn y spa yn eich cartref.
  • Ffigysen Felfed-soffistigedig, ffrwythus, a chymhleth, mae hon yn bersawr sy’n cynnwys elfennau o geirios, cwrens duon, mefus, oris, ffigysen, a phren sandal.  Bendigedig!

Hefyd, gwnewch yn siŵr i ddewis lliw eich cyrs ffibr, sef lliw du neu liw naturiol.  

Canllawiau Ar Gyfer Defnyddio’ch Tryledwr.

  1. Cyn defnyddio’r tryledwr, a cyn i chi dynnu’r caead i ffwrdd, rhowch siglad ysgafn i’r botel. 
  2. Gosodwch yr wyth cors i mewn yn yr hylif.  Fe ddylai’r persawr dechrau tryledu o fewn ychydig o oriau.
  3. Pob tair-pedair wythnos, bydd angen troi’r prennau gôr i waered (byddwch yn ofalus rhag sarnu’r hylif ar eich dodrefn. Glanhewch unrhyw hylif sydd wedi sarnu yn syth, gyda phapur gegin).
  4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod y tryledwr i ffwrdd o golau haul cryf, ac yn bell o wresogydd.
  5. A rhowch ar goster, i warchod eich celfi!

Cadwch y botel ar ôl i chi ei ddefnyddio, i’w ail-lenwi gyda mwy o hylif persawrus, prydferth!

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr Tryledwr 1

Cnau Coco, Diwrnod Spa, Ffigysen Felfed

Reed Colour

Cyrs Ffeibr Naturiol, Du