Disgrifiad
Croesawch dymor y Nadolig gyda’n Cannwyll Nadolig Tun: Nadolig Llawen / Happy Christmas gyda’i label ddwyieithog.
Wedi’u gwneud â llaw yn ne Cymru gan ddefnyddio cwyr soi naturiol, mae’r canhwyllau hyn yn llosgi’n lân ac yn para’n hir. Mae yno ddewis o arogleuon tymhorol i gyd-fynd â phob hwyl.
Perffaith fel anrheg, i addurno, neu i ymlacio iddi ar noson aeaf tawel.
Dewiswch o’r opsiynau isod.
- Adfent: persawr nodweddiadol o’r Nadolig, gydag elfennau o oren yn cyfuno gyda sbeisys fesul sinamon, nytmeg a chlof i greu naws cysurlon a chlyd.
- Canol Gaeaf: mae cymysgedd o ffrwythau’r gaeaf, rhosod, a mwsg yn rhyfeddu gyda’i gilydd yn y persawr hyfryd, melys hwn.
- Coeden Nadolig: mae elfennau ffres o nodwyddau pinwydd, balsam ffynidwydd a phren cedrwydd, yn dal purdeb, a harddwch tawel, y gaeaf mewn coedwig Lychlynnaidd.
- Nadolig: adfywiol, melys a ffrwythus, dyma elfennau o aroglau llugaeron, lemwn a mafon, ffrwythau’r goedwig, a mwsg, perffaith ar gyfer y Nadolig.
- Tawel Nos: persawr soffistigedig a chymhleth yw hwn gyda mafon a phinwydden sy’n creu naws adfywiol a Nadoligaidd.
- Yr Aelwyd: hwn yw’r persawr mwyaf gwrywaidd o’r gyfres, sydd gyda naws ‘cologne’. Mae’n cynnig elfennau o bergamot, iwcaliptws, sbeisys a chedrwydden, sy’n gysurlon a chynnes.
Darllenwch ymlaen os hoffwch wybodaeth am gael y gorau o’ch cannwyll.
Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon. I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr. Bydd hyn yn alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi. Hefyd, cadwch yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr. Bydd hwn yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Os hoffech fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.





