Disgrifiad
Dyma anrheg ddelfrydol ac unigryw, sef cannwyll soi persawrus, gydag enw’r derbynnydd ar y label! Cyflwynwyd mewn gwydr steilus lliw ambr, gyda chaead du. Fe fydd hon yn siŵr o blesio!!
Wrth brynu, nodwch yr enw sydd angen ar y label, yn y blwch ‘Nodiadau’. Dewiswch o’r persawrau godidog yma:
- Diwrnod Spa-adfywiol a ffres, yn cynnwys elfennau o wair lemon a sinsir.
- Ffigysen Felfed-persawr soffistigedig a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffigys, a mwsg.
- Fflur- persawr sy’n cyfuno arogleuon blodau’r haf, megis pys per, rhosod a jasmin.
- Stafell Ddarllen-gwrywaidd, a chymhleth, dyma arogl sy’n debyg i faco melys, ac yn boblogaidd iawn, gyda chi!
Gwnaed, a’i thywallt, â llaw yng Nghymru. Mae pob cannwyll yn cynnwys tua 18cl o gwyr soi persawrus. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddarllen ein Canllawiau Gofal Canhwyllau cyn mwynhau’n canhwyllau. Diolch o galon.






