Canhwyllau Cyfarch Soi-dewiswch eich label

£16.00

Gan gyflwyno ein casgliad o Ganhwyllau Cyfarch Soi, sydd wedi cael eu gwneud â llaw yn ne Cymru.  Maent yn uno persawrau godidog gyda chyfarchion meddylgar, ac bydd yn siŵr o godi gwên, beth bynnag yw’r achlysur.  Yn ogystal, fedrwch ddewis o gyfarchion Cymraeg neu Saesneg.

Disgrifiad

Gan gyflwyno ein casgliad o Ganhwyllau Cyfarch Soi, sydd wedi cael eu gwneud â llaw yn ne Cymru.  Maent yn uno persawrau godidog gyda chyfarchion meddylgar, ac bydd yn siŵr o godi gwên, beth bynnag yw’r achlysur.  Yn ogystal, fedrwch ddewis o gyfarchion Cymraeg neu Saesneg.

Persawrau:

Croesi’r Traeth:  persawr arfordirol, poblogaidd, ac ysgafn, sy’n cynnig naws tawel a chysurlon.  Byddwch yn cael eich atgoffa o gerdded ar y traeth, gyda’i chyfuniad o siclamen, lili, ambr, broc-môr, patshwli a mwsg.

Eirin Du a Rhosyn:  dyma bersawr fflurol a ffrwythus, sy’n hynod boblogaidd, beth bynnag yr achlysur.  Mae’n cynnwys elfennau o gwrens duon, eirin, rhosys, fanila a mwsg.

Hwyrnos:  os ydych yn hoff o bersawrau prennaidd, mwy mwyn, yna mae hon yn berffaith i chi.  Mae’n cynnwys cedrwydden a jasmin, gyda iwcaliptws, bergamot, coco, ac ambr i greu persawr hynod boblogaidd, i drwyn pawb!

Rhosyn Fioled:  i’r rhai sy’n hoff o bersawrau blodau, dyma bersawr prydferth sy’n soffistigedig a chyfoes.  Rhosys a rhosys y mynydd yw’r prif elfennau, gyda naws fioled, eirin, ambr a mwsg.

Stafell Ddarllen:  persawr anghyffredin sy’n un o’n gwerthwyr gorau.  Cewch arogl soffistigedig o gognac, derw a mwg, gyda jasmin, fetifer a chlôf.

Ym mhob tun Cannwyll Cyfarch cewch tua 24 cl o gwyr soi persawrus, a fydd yn cynnig oddeutu 40 awr o arogl hyfryd yn eich cartref.  (Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein Canllawiau Gofal Canhwyllau sydd ar gael drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen).

Os na fedrwch chi ddod o hyd i gyfarch sy’n addas i chi, yna cysylltwch â mi drwy anfon e-bost at post@gweni.co.uk

Gwybodaeth ychwanegol

Neges

Atgofion Melys, Caru Ti, Congratulations, Cwtsh, Ffrind, Friend, Good Luck!, Happy Birthday, Llongyfarchiadau, Love You, Memories, One Day at a Time, Penblwydd Hapus, Pob Lwc!, Thinking Of You, Un Dydd ar y Tro

Persawr Cannwyll 1

Croesi'r Traeth, Eirin Du a Rhosyn, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Rhosyn Fioled, Stafell Ddarllen