Disgrifiad
Os ydych yn chwilio am anrheg unigryw foethus i berson arbennig, yna mae’r blwch anrheg foethus fawr yma yn ddelfrydol i chi! Mae’n bosib dewis o wahanol bersawrau, ar gyfer bob eitem, neu un yn unig! Cyflwynwyd mewn bocs anrheg foethus du, gyda rhuban wedi ei glymu â llaw!
Mae’r canhwyllau yn y set foethus yma’n cynnig tua 40-45 awr o bersawr, ac yn cynnwys tua 250ml o gwyr soi persawrus. Fe ddylai’r tryledwyr para am thua 4-6 mis neu mwy! (Darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau i sicrhau oriau o bersawr godidog!).
Buaswn yn argymell eich bod yn rhoi’r tryledwyr i ffwrdd o wres uniongyrchol, sef gwresogydd neu mewn ffenest sy’n derbyn haul cryf. Anelwch i droi’r cyrs gor i waered pob 3 wythnos, gan sicrhau eich bod yn osgoi sarnu’r hylif ar eich dodrefn. Mae’n syniad i osod y botel ar ‘coster’ i warchod eich dodrefn, hefyd. I gael y persawr orau, defnyddiwch bob un o’r wyth darn pren ar yr un pryd.