Disgrifiad
Mae’r Set Anrheg Cannwyll a Thryledwr yma’n berffaith os ydych eisiau difetha person arbennig!
Ar gael mewn amrywiaeth o bersawrau godidog, a chors ffeibr unai du neu liw naturiol.
Cyflwynwyd mewn blwch anrheg foethus du.
Dewiswch o’r persawrau trawiadol yma.
- Ambr: dyma gymysgedd o aroglau soffistigedig yn arwain o fêl a fanila, i fwsg. Mae’n llenwi’r tŷ gydag arogl chymhleth, gysurlon.
- Diwrnod Spa: mae gwair lemwn a sinsir yn cyfuno i greu persawr adfywiol a ffres, sy’n hynod boblogaidd!
- Eirin Du a Rhosyn: dyma eirin, rhosod,a phatsiwli yn cyfuno i greu persawr soffistigedig, cymhleth, y’n boblogaidd iawn.
- Stafell Ddarllen: dyma bersawr nodedig iawn, sy’n cynnwys cymysgedd soffistigedig o sbeisys twym, awgrym o frandi, pren myglyd, a mwsg tywyll.
Gwnaed pob cannwyll a thryledwr yng Nghymru, â llaw. Fe fydd y gannwyll 25cl yma yn para tua 40 awr (wrth i chi ddilyn ein Canllawiau Gofal Canhwyllau).
Gofal Cannwyll.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Gofal Tryledwr.
Cewch i fyny at 6 mis o bersawr o’r tryledwr.
- Awgrymwn eich bod yn osgoi gosod y tryledwr ger ffenest, neu wresogydd.
- Gosodwch ar ‘coaster’ i arbed eich celfi rhag damwain gyda’r hylif.
- Trowch y gors ffeibr wyned i waered bob 3 wythnos, gan sicrhau eich bod yn golchi’ch dwylo ar ôl neud hyn.
- Yn olaf, cadwch i ffwrdd o blant ac anifeiliaid.





