Canhwyllau Anrheg Athro-dewiswch eich label

£15.00

Dathlwch hoff athro/athrawes eich plentyn, gydag un o’n ganhwyllau “Athro Gorau’r Byd” ac “Athrawes Orau’r Byd” (mae hefyd ar gael gyda’r geiriau ‘World’s Best Teacher’).  Maent yn uno persawrau godidog gyda chyfarchion meddylgar, a bydd yn siŵr o godi gwên ar ddiwedd tymor.  Gwnaed pob cannwyll â llaw yn ne Cymru, o gwyr soi.

Disgrifiad

Dathlwch hoff athro/athrawes eich plentyn, gydag un o’n Canhwyllau Anrheg Athro/Athrawes, “Athro Gorau’r Byd” ac “Athrawes Orau’r Byd” (mae hefyd ar gael gyda’r geiriau ‘World’s Best Teacher’).  Maent yn uno persawrau godidog gyda chyfarchion meddylgar, a bydd yn siŵr o godi gwên ar ddiwedd tymor.  Gwnaed pob cannwyll â llaw yn ne Cymru, o gwyr soi.  Dewiswch o’r persawrau yma.

Persawrau:

Croesi’r Traeth:  persawr arfordirol, poblogaidd, ac ysgafn, sy’n cynnig naws tawel a chysurlon.  Byddwch yn cael eich atgoffa o gerdded ar y traeth, gyda’i chyfuniad o siclamen, lili, ambr, broc-môr, patshwli a mwsg.

Eirin Du a Rhosyn:  dyma bersawr fflurol a ffrwythus, sy’n hynod boblogaidd, beth bynnag yr achlysur.  Mae’n cynnwys elfennau o gwrens duon, eirin, rhosys, fanila a mwsg.

Hwyrnos:  os ydych yn hoff o bersawrau prennaidd, mwy mwyn, yna mae hon yn berffaith i chi.  Mae’n cynnwys cedrwydden a jasmin, gyda iwcaliptws, bergamot, coco, ac ambr i greu persawr hynod boblogaidd, i drwyn pawb!

Rhosyn Fioled:  i’r rhai sy’n hoff o bersawrau blodau, dyma bersawr prydferth sy’n soffistigedig a chyfoes.  Rhosys a rhosys y mynydd yw’r prif elfennau, gyda naws fioled, eirin, ambr a mwsg.

Stafell Ddarllen:  persawr anghyffredin sy’n un o’n gwerthwyr gorau.  Cewch arogl soffistigedig o gognac, derw a mwg, gyda jasmin, fetifer a chlôf.

Ym mhob tun cewch tua 24 cl o gwyr soi persawrus, a fydd yn cynnig oddeutu 40 awr o arogl hyfryd yn eich cartref.  (Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein Canllawiau Gofal Canhwyllau sydd ar gael drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen).

 

Gwybodaeth ychwanegol

End of Term Teacher Gift Candles Wording

Athro Gorau /Athrawes Orau'r Byd, Athro Gorau'r Byd, World's Best (Female) Teacher

Persawr

Croesi'r Traeth, Eirin Du a Rhosyn, Hwyrnos, Rhosyn Fioled, Stafell Ddarllen

Our brand new Pick & Mix soy wax melts are now LIVE on the website! Find them under 'MELTS'.

Mae'n toddgwyr soi newydd sbon 'Pic a Mics' nawr yn fyw ar y wefan ac ar gael yn yr adran 'TODDGWYR'.