Disgrifiad
Dywedwch ‘Diolch’ i hoff athro/athrawes (neu Cynorthwyydd Dosbarth) eich plentyn, gydag un o’n Canhwyllau Anrheg Athro/Athrawes, sydd ar gael mewn amrywiaeth o gyfarchion. Maent yn uno persawrau godidog gyda chyfarchion meddylgar, a bydd yn siŵr o godi gwên ar ddiwedd tymor. Gwnaed pob cannwyll â llaw yn ne Cymru, o gwyr soi.
Dewiswch o’r cyfarchion a phersawrau yma.
Cyfarchion:
- Athrawes Orau’r Byd
- Athro Gorau’r Byd
- Diolch Yn Fawr-Cynorthwyydd Dosbarth
- Thank You-Classroom Assistant
- World’s Best Teacher
Persawrau:
- Croesi’r Traeth: persawr arfordirol, poblogaidd, ac ysgafn, sy’n cynnig naws tawel a chysurlon. Byddwch yn cael eich atgoffa o gerdded ar y traeth, gyda’i chyfuniad o siclamen, lili, ambr, broc-môr, patshwli a mwsg.
- Eirin Du a Rhosyn: dyma bersawr fflurol a ffrwythus, sy’n hynod boblogaidd, beth bynnag yr achlysur. Mae’n cynnwys elfennau o gwrens duon, eirin, rhosys, fanila a mwsg.
- Hwyrnos: os ydych yn hoff o bersawrau prennaidd, mwy mwyn, yna mae hon yn berffaith i chi. Mae’n cynnwys cedrwydden a jasmin, gyda iwcaliptws, bergamot, coco, ac ambr i greu persawr hynod boblogaidd, i drwyn pawb!
- Stafell Ddarllen: persawr anghyffredin sy’n un o’n gwerthwyr gorau. Cewch arogl soffistigedig o gognac, derw a mwg, gyda jasmin, fetifer a chlôf.
Ym mhob tun cewch tua 24 cl o gwyr soi persawrus, a fydd yn cynnig oddeutu 40 awr o arogl hyfryd yn eich cartref. (Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein Canllawiau Gofal Canhwyllau sydd ar gael drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen).






