Disgrifiad
Cannwyll adfywiol a ffres yw’n cannwyll bersawrus Llonyddwch, sy’n cyfuno persawrau braf leim, basil, a mandarin i greu naws hyfryd yn eich cartref. Mae’n fwy melys ‘na ‘Diwrnod Spa’ ac yn berffaith os ydych yn hoff o bersawrau sitrws.
Gwnaed ein Cannwyll Bersawrus Llonyddwch o gwyr soi naturiol, â llaw, yng Nghymru. Ail-defnyddiwch y potiau, neu dychwelwch i ni i’w ail-lenwi.
Ar gael mewn nifer o feinitiau. Gwnewch eich dewis o’r fwydlen priodol.
Canllawiau Gofal Cannwyll.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.





