Disgrifiad
Llenwch eich cartref gyda’n casgliad o Bersawrau Ystafell gyfoes, fydd yn bywiogi’ch cartref gyda’n persawrau poblogaidd.
Mae gan bob Persawr Ystafell tua 10cl o hylif persawrus, a fydd yn llenwi’ch cartref gyda’ch hoff arogleuon Gweni.
Yn ddelfrydol ar gyfer ychwanegu at eich casgliad o bersawrau Gweni i’r cartref, mae’r rhain hefyd yn creu anrheg unigryw, foethus.
Defnyddiwch ym mhob un o’ch ystafelloedd, gan gynnwys eich ystafell wely i greu naws ymlaciol.
Dewiswch eich boff persawr o’r Fwydlen. Dyma’r persawrau sydd ar gael:
- Croesi’r Traeth: persawr adfywiol, arfordirol, a fydd yn eich atgoffa o siwrne i’r traeth. Mae’n cynnwys elfennau o siclamen, a lili’r dŵr, gyda phersawr ffres broc-môr. Mae’n bersawr poblogaidd iawn, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
- Diwrnod Spa: gwair lemwn, sinsir a chedrwydden sy’n dod at eu gilydd i greu persawr byth-tragwyddol. Dyma awel sy’n mynd i fywiogi unrhyw ystafell, ar unrhyw adeg.
- Eirin Du a Rhosyn: am bersawr soffistigedig, a chymhleth. Mae’n cyfuno ffrwythau’r eirin, gyda rhosod, a phatshwli i greu cyfuniad fflurol, ffrwythus gydag awel o erddi’r Haf.
- Rhosyn Fioled: rhosod, rhosyn mynydd, a fioledau sy’n cyfuno yma i greu bersawr fflurol a chymhleth. Mae’n creu awel ysgafn a chyfoes, sy’n sirioli’ch cartref.
Cyflwynwyd mewn potel wydr, gyda chwistrell plastig sy’n gallu cael ei ail gylchu. Fe fydd yn bosib ail lenwi’r poteli yma-cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Sicrhewch eich bod yn osgoi anelu’r persawr yn uniongyrchol ar unrhyw ddodrefn, clustogau, blancedi, ac ati, a lloriau pren.
Os na fedrwch ddod o hyd i’ch hoff bersawr drwy’r Fwydlen briodol, yna cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy anfon e-bost at post@gweni.co.uk