CATRIN-Tryledwr Persawrus (mewn dewis o bersawrau)

£30.00

Tryledwr Catrin-mewn steil apothecari

Dyma dryledwr steilus a chyfoes, a fydd yn weddi pob cartref.  Mae’n cynnwys 20cl o bersawr godidog, a fydd yn llenwi’ch cartref gyda naws hyfryd am tua 8-12 mis.  Ar gael mewn ystod helaeth o’ch hoff bersawrau Gweni.

Disgrifiad

Tryledwr Catrin-mewn steil apothecari Dyma dryledwr steilus a chyfoes, a fydd yn weddi pob cartref.  Mae’n cynnwys 20cl o bersawr godidog, a fydd yn llenwi’ch cartref gyda naws hyfryd am tua 8-12 mis.  Gwnaed pob un â llaw yn ne Cymru. Dewiswch o’r persawrau hyn:

Persawrau Fflurol.
  • Eirin Du a Rhosyn:  dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
  • Fflur: bydd y persawr rhyfeddol hwn yn eich atgoffa o gerdded trwy ardd sydd dan ei sang o flodau’r haf, rhosod, pys pêr, a jasmin.
  • Hiraeth: am air sy’n golygu sut gymaint.  Hiraethu am berson, am le, am amser….  Dyma bersawr sy’n hiraethlon, gyda’i chyfuniad o fioled, rhosod, mynawyd y bugail ac ambr.
  • Peian: persawr hudolus, soffistigedig sy’n cyfuno rhosod, peian, lilis ac ambr.
Ffres.
  • Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol.  Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
  • Diwrnod Golchi Dillad:  persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus.  Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
  • Diwrnod Spa:  persawr bydd yn eich atgoffa o spa foethus, gyda’i ‘hoglau ffres o ffrwythau sitrws, patsiwli, pren gwyn a fanila.  Un o’n gwerthwyr gorau
  • Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys.  Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin.  Hyfryd.
  • Nos Da:  dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol.  Perffaith mewn ystafell wely.
Ffrwythus.
  • Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
  • Gwawrio:  arogl bywiog ac adfywiol sy’n cyfuno grawnffrwyth, oren, jasmin a mwsg. Mae’n arogl ysgogol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am arogleuon egnïol. Mae gennym ni yn yr ystafell ymolchi— ac mae’n arogl gwych i ddeffro iddo!
  • Mifi Mafon: persawr felys, ffrwythus, sy’n cynnwys elfennau o naws mafon a fanila.  Mae’n hel atgofion o lolipops ffrwythus!
  • Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Cysurlon/Prennaidd/Gwrywaidd
  • Ambr: arogl hynod gymhleth sy’n gynnes ac yn gysurus, gyda mymryn o fêl melfedaidd, sbeis ysgafn a fanila felys.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!

Hefyd, gwnewch yn siŵr i ddewis lliw eich cyrs ffibr, sef lliw du neu liw naturiol. Darllennwch ymlaen am Ganllawiau Ar Gyfer Defnyddio’ch Tryledwr.

  1. Cyn defnyddio’r tryledwr, a cyn i chi dynnu’r caead i ffwrdd, rhowch siglad ysgafn i’r botel.
  2. Gosodwch yr wyth cors i mewn yn yr hylif.  Fe ddylai’r persawr dechrau tryledu o fewn ychydig o oriau.
  3. Pob tair-pedair wythnos, bydd angen troi’r prennau gôr i waered (byddwch yn ofalus rhag sarnu’r hylif ar eich dodrefn. Glanhewch unrhyw hylif sydd wedi sarnu yn syth, gyda phapur gegin).
  4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod y tryledwr i ffwrdd o golau haul cryf, ac yn bell o wresogydd.
  5. A rhowch ar goster, i warchod eich celfi!

Cadwch y botel ar ôl i chi ei ddefnyddio, i’w ail-lenwi gyda mwy o hylif persawrus, prydferth!

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr Tryledwr 1

Ambr, Cnau Coco, Croesi'r Traeth, Cwtsh, Diwrnod Golchi Dillad, Diwrnod Spa, Eirin Du a Rhosyn, Ffigysen Felfed, Fflur, Gwawrio, Hiraeth, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Jasmin, Llonyddwch, Mifi Mafon, Nos Da, Noson Olau Leuad, Peian, Riwbob, Stafell Ddarllen

Reed Colour

Cyrs Ffeibr Naturiol, Du

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.