Morwyn Briodas/Bridesmaid-Cannwyll Anrheg

Dyma ffordd unigryw a bythgofiadwy i ofyn i’ch ffrindiau i fod yn forwynion priodas i chi, gyda channwyll foethus, arbennig.  Maen nhw ar gael mewn tri phersawr godidog, gyda labeli Cymraeg neu Saesneg.  Ym mhob cannwyll, cewch 15cl o gwyr persawrus, hyfryd, mewn potyn wydr brown â chaead du

This product is currently out of stock and unavailable.

Disgrifiad

Dyma ffordd unigryw a bythgofiadwy i ofyn i’ch ffrindiau i fod yn forwynion priodas i chi, gyda channwyll foethus, arbennig.  Maen nhw ar gael mewn tri phersawr godidog, gyda labeli Cymraeg neu Saesneg.  Os hoffwch bersonoli’r label, yna cysylltwch â mi’n uniongyrchol drwy anfon neges at post@gweni.co.uk

Ym mhob cannwyll, cewch 15cl o gwyr persawrus, hyfryd, mewn potyn wydr brown â chaead du.  Dewiswch o’r persawrau yma:

  • Cnau Coco:  persawr trofannol, ysgafn, gyda naws cnau coco, eirin gwlanog, almon, a mwsg.
  • Diwrnod Spa:  dyma bersawr ffres, sitrws, ac adfywiol, gyda gwair lemwn, a sinsir.  
  • Ffigysen Felfed:  persawr cyfoethog, soffistigedig, gydag elfennau o aeron cymysg, a ffigysen.  

Gwnaed â llaw o gwyr soi, i bob archeb, yn nhe Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol

Bridesmaid Gift Wording

A wnei di fod yn forwyn briodas i fi?, Geiriau Personol, Will you be my bridesmaid?

Persawr

Cnau Coco, Diwrnod Spa, Ffigysen Felfed

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.