Disgrifiad
Pwy sydd ddim yn hoff o ‘bic a mics’? Nawr, gallwch fwynhau ein toddgwyr godidog, mewn amrywiaeth o bersawrau hyfryd! Ac, wrth brynu 5, cewch un am ddim!! Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb (yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael).
Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.
Dewiswch eich 5 toddgwr o’r fwydlen islaw. Mae pob darn yn pwyso tua 22g.
Os bod gwell gennych brynu un neu ddau toddgwr yn unig, yna cliciwch ar y linc hon: Toddgwyr Soi Moethus- mewn amrywiaeth o bersawrau – Gweni
Sut i ddefnyddio’r toddgwr a beth i neud pan ni allwch arogli’r persawr? Darllenwch ymlaen… I’w ddefnyddio, tynnwch y label o waelod y toddgwr, a gosodwch yn eich llosgwr. Efallai bydd angen torri’r toddgwr yn llai; neu os dymunwch, torrwch yn llai i gymysgu gyda toddgwr arall, neu i’w arbed am dro arall. Ar ôl pob dim, mae pob un yn para’n hir iawn!
Pan ni allwch arogli’r persawr, yna bydd angen newid y cwyr o’r fowlen. I neud hyn, twymwch y toddgwyr (unai drwy osod cannwyll fach yng ngwaelod y llosgwr, neu drwy droi’r trydan ymlaen am gwpl o funudau os ydych yn defnyddio llosgwr trydanol, teclyn grêt!) ac ar ôl munud neu ddwy bydd y cwyr yn dechrau toddi. Gyda phapur o’r gegin, sychwch yr hen gwyr i ffwrdd. Wedyn, gosodwch ddarn newydd o’r toddgwr i mewn i’r bowlen ac rydych yn barod i fwynhau mwy o bersawr godidog Gweni!
*Cadwch y toddgwr i ffwrdd o blant ac anifeiliaid. Ni ddylai cael ei fwyta!













