Toddgwyr Soi Unigol- mewn amrywiaeth o bersawrau

£2.50

Llenwch eich cartref â phersawr hyfryd gyda’n toddgwyr soi bach bendigedig. Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb.

Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.

*Mae 5 am 4 ar gael o’r wefan hefyd.  Dilynwch y linc hon: Pic a Mics Toddgwyr Soi-5 am £10 – Gweni

Disgrifiad

Llenwch eich cartref â phersawr hyfryd gyda’n toddgwyr soi bach bendigedig. Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb.

Dewiswch o’r persawrau hyfryd hyn:

Persawrau Fflurol.
  • Eirin Du a Rhosyn:  dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
  • Fflur: bydd y persawr rhyfeddol hwn yn eich atgoffa o gerdded trwy ardd sydd dan ei sang o flodau’r haf, rhosod, pys pêr, a jasmin.
  • Hiraeth: am air sy’n golygu sut gymaint.  Hiraethu am berson, am le, am amser….  Dyma bersawr sy’n hiraethlon, gyda’i chyfuniad o fioled, rhosod, mynawyd y bugail ac ambr.
  • Peian: persawr hudolus, soffistigedig sy’n cyfuno rhosod, peian, lilis ac ambr.
Ffres.
  • Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol.  Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
  • Diwrnod Golchi Dillad:  persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus.  Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
  • Diwrnod Spa:  persawr bydd yn eich atgoffa o spa foethus, gyda’i ‘hoglau ffres o ffrwythau sitrws, patsiwli, pren gwyn a fanila.  Un o’n gwerthwyr gorau
  • Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys.  Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin.  Hyfryd.
  • Nos Da:  dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol.  Perffaith mewn ystafell wely.
Ffrwythus.
  • Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
  • Gwawrio:  arogl bywiog ac adfywiol sy’n cyfuno grawnffrwyth, oren, jasmin a mwsg. Mae’n arogl ysgogol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am arogleuon egnïol. Mae gennym ni yn yr ystafell ymolchi— ac mae’n arogl gwych i ddeffro iddo!
  • Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Hydrefol/Cysurlon
  • Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’  Mae’n soffistigedig a chymhleth.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!

Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.

I’w ddefnyddio, tynnwch y label o waelod y toddgwr, a gosodwch yn eich llosgwr.  Efallai bydd angen torri’r toddgwr yn llai; neu os dymunwch, torrwch yn llai i gymysgu gyda toddgwr arall, neu i’w arbed am dro arall.  Ar ôl pob dim, mae pob un yn para’n hir iawn!

Mae’r rhain ar gael yn eich hoff bersawrau. Dewiswch o’r fwydlen islaw. Mae pob darn yn pwyso tua 22g.

Os hoffech fanteisio ar ein cynnig o 5 am £10, yna dilynwch y linc hon: Pic a Mics Toddgwyr Soi-5 am £10 – Gweni

Beth i neud pan ni allwch arogli’r persawr?  Darllenwch ymlaen… Pan ni allwch arogli’r persawr, yna bydd angen newid y cwyr o’r fowlen. I neud hyn, twymwch y toddgwyr (unai drwy osod cannwyll fach yng ngwaelod y llosgwr, neu drwy droi’r trydan ymlaen am gwpl o funudau os ydych yn defnyddio llosgwr trydanol, teclyn grêt!) ac ar ôl munud neu ddwy bydd y cwyr yn dechrau toddi. Gyda phapur o’r gegin, sychwch yr hen gwyr i ffwrdd. Wedyn, gosodwch ddarn newydd o’r toddgwr i mewn i’r bowlen ac rydych yn barod i fwynhau mwy o bersawr godidog Gweni!

*Cadwch y toddgwr i ffwrdd o blant ac anifeiliaid. Ni ddylai cael ei fwyta!

Gwybodaeth ychwanegol

Weight N/A
Persawr

Cnau Coco, Coeden Nadolig, Croesi'r Traeth, Cwtsh, Diwrnod Golchi Dillad, Diwrnod Spa, Eirin Du a Rhosyn, Ffigysen Felfed, Fflur, Gwawrio, Hiraeth, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Jasmin, Mifi Mafon, Nadolig, Nos Da, Porth Mawr, Rhosyn Fioled, Riwbob, Stafell Ddarllen, Tawel Nos