Toddgwyr Soi Tymhorol- mewn amrywiaeth o bersawrau

£2.50

Llenwch eich cartref â phersawr hyfryd drwy’r gaeaf hwn, gyda’n toddgwyr soi bach bendigedig. Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb. Mae pob toddiad yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.

*Mae 5 am £10 ar gael o’r wefan hefyd.  Dilynwch y linc hon: Pic a Mics: 5 am £10

Disgrifiad

Llenwch eich cartref dros y gaeaf hwn â phersawr hyfryd gyda’n toddgwyr soi tymhorol bendigedig. Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr. Mae’r rhain ar gael yn eich hoff bersawrau tymhorol a Nadoligaidd. Dewiswch o’r opsiynau hyn:

Hydrefol/Clyd

  • Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’  Mae’n soffistigedig a chymhleth.
  • Ar Hyd Y Nos: persawr fflurol soffistigedig, gyda mynawyd y bugail, lili, jasmin a phrennau cysurlon i greu naws rhamantus a chlud sy’n berffaith ar gyfer nosweithiau hir y gaeaf.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!
Nadolig
  • Adfent: persawr nodweddiadol o’r Nadolig, gydag elfennau o oren yn cyfuno gyda sbeisys fesul sinamon, nytmeg a chlof i greu naws cysurlon a chlyd.
  • Canol Gaeaf: mae cymysgedd o ffrwythau’r gaeaf, rhosod, a mwsg yn rhyfeddu gyda’i gilydd yn y persawr hyfryd, melys hwn.
  • Coeden Nadolig: cedrwydden, pîn, pren balsam ac iwcaliptws yw’r arwyr yn y persawr hwn, sy’n adfywiol a hyfryd dros ben.
  • Crwydro’r Coetir: mae’r gaeaf yn amser i fynd am dro drwy’r goedwig, i fwynhau tawelwch a cysgod y coed.  Dyma bersawr sy’n creu’r awyrgylch hynny, gyda’i elfennau o binwydden, balsam, sinamwn a ffynidwydden.
  • Eira: mae yna dawelwch pur pan mae’r eira’n disgyn a dyma bersawr sy’n creu’r naws heddychlon hynny, gyda’i phersawr cysurlon o sitrws, ambr, fanila a mwsg.
  • Nadolig: adfywiol, melys a ffrwythus, dyma elfennau o aroglau llugaeron, lemwn a mafon, ffrwythau’r goedwig, a mwsg, perffaith ar gyfer y Nadolig.
  • Tawel Nos: persawr soffistigedig a chymhleth yw hwn gyda mafon a phinwydden sy’n creu naws adfywiol a Nadoligaidd.
  • Yr Aelwyd: hwn yw’r persawr mwyaf gwrywaidd o’r gyfres, sydd gyda naws ‘cologne’.  Mae’n cynnig elfennau o bergamot, iwcaliptws, sbeisys a chedrwydden, sy’n gysurlon a chynnes.

Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb. Os hoffech fanteisio ar ein cynnig o 6 am £10, yna dilynwch y linc hon: Pic a Mics Toddgwyr Soi-5 am £10 – Gweni

Shwt i ddefnyddio’r toddgwyr?  Darllenwch ymlaen! I’w ddefnyddio, tynnwch y label o waelod y toddgwr, a gosodwch yn eich llosgwr.  Efallai bydd angen torri’r toddgwr yn llai; neu os dymunwch, torrwch yn llai i gymysgu gyda toddgwr arall, neu i’w arbed am dro arall.  Ar ôl pob dim, mae pob un yn para’n hir iawn!

Pan ni allwch arogli’r persawr, yna bydd angen newid y cwyr o’r fowlen. I neud hyn, twymwch y toddgwyr (unai drwy osod cannwyll fach yng ngwaelod y llosgwr, neu drwy droi’r trydan ymlaen am gwpl o funudau os ydych yn defnyddio llosgwr trydanol, teclyn grêt!) ac ar ôl munud neu ddwy bydd y cwyr yn dechrau toddi.

Gyda phapur o’r gegin, sychwch yr hen gwyr i ffwrdd. Wedyn, gosodwch ddarn newydd o’r toddgwr i mewn i’r bowlen ac rydych yn barod i fwynhau mwy o bersawr godidog Gweni! Fedrwch, hefyd, prynu llosgwyr ar gyfer y toddgwyr ar y wefan.

*Cadwch y toddgwr i ffwrdd o blant ac anifeiliaid. Ni ddylai cael ei fwyta!

Gwybodaeth ychwanegol

Weight N/A
Persawr

Adfent, Ambr, Ar Hyd Y Nos, Canol Gaeaf, Coeden Nadolig, Cwtsh, Eira, Hwyrnos, Nadolig, Noson Olau Leuad, Stafell Ddarllen, Tawel Nos, Yr Aelwyd