Disgrifiad
Mae’r gannwyll feddylgar ‘Thinking Of You’ yn ddelfrydol fel anrheg gysurlon i fynegi eich cefnogaeth mewn amser anodd. Gwnaed รข llaw yng Nghymru gyda chwyr soi, fe fydd yn estyn golau cynnes mewn unrhyw ofod, drwy lenwi’r aer gyda phersawr pert.
Dewiswch o’r persawrau yma:
- Croesi’r Traeth: llenwch unrhyw gartref gyda phersawr ymgodol yr arfordir gyda’r gannwyll hon, gyda’i chyfuniad o siclamen, lili’r dลตr, ambr a mwsg.
- Diwrnod Spa: dyma bersawr adfywiol sy’n cynnwys naws ffrwythau sitrws a sinsir, i greu awel dawel, fywiogus.
- Eirin Du a Rhosyn: gydag elfennau o rosod ac eirin, a mymryn bach o batsiwli, mae hon yn bersawr godidog, sy’n apelio at bawb.
- Stafell Ddarllen: am bersawr unigryw a chymhleth, mae hon yn cyfuno cognac, clof, derw, jasmin, a baco i greu naws bythgofiadwy.
Os hoffwch y gannwyll mewn unrhyw un o’n persawrau bendigedig ar wahรขn i rain, yna anfonwch neges at post@gweni.co.uk, ac fe fyddwn wrth ein bodd i estyn cymorth i chi ddarganfod y persawr delfrydol.
Os hoffwch focs anrheg i fynd gyda hi, yna mae hwn ar gael ar wahan.
Gwnaed pob un o’n canhwyllau o gwyr soi cynaliadwy, a gydag olew persawr o’r ansawdd gorau. Mae hyn yn sicrhau cannwyll fydd yn llosgi’n arbennig o dda, ac yn lรขn.
Mae canhwyllau ‘Atgofion’, ‘Meddwl Amdanat’, a ‘Gyda Chariad’ ar gael, hefyd.
Fe fydd pob cannwyll yn llosgi am oddeutu 50 awr (sicrhewch eich bod chi’n darllen ein Canllawiau Gofal Canhwyllau).
Cofiwch ddychwelyd eich gwydrau gwag i ni, neu ail-ddefnyddiwch nhw.





