Disgrifiad
Dewch â phersawr hardd, hirhoedlog gyda chi ble bynnag yr ewch gyda’r Tryledwr Persawrus Car Gweni, wedi’i wneud â llaw yng Nghymru.
Wedi’i gynllunio i bersawru eich car yn ysgafn, mae’r tryledwr chwaethus hwn yn troi pob taith yn brofiad mwy pleserus.
Yn cynnwys 8 ml o bersawr, mae’n darparu wythnosau o arogl parhaus ac mae ar gael ym mhob un o’n persawrau poblogaidd.
Hongiwch ef o ddrych eich car a mwynhewch eich hoff bersawr Gweni ble bynnag y bydd y ffordd yn eich arwain.
Dewiswch o’r opsiynau isod.
Persawrau Fflurol.
- Eirin Du a Rhosyn: dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
- Fflur: bydd y persawr rhyfeddol hwn yn eich atgoffa o gerdded trwy ardd sydd dan ei sang o flodau’r haf, rhosod, pys pêr, a jasmin.
- Hiraeth: am air sy’n golygu sut gymaint. Hiraethu am berson, am le, am amser…. Dyma bersawr sy’n hiraethlon, gyda’i chyfuniad o fioled, rhosod, mynawyd y bugail ac ambr.
- Peian: persawr hudolus, soffistigedig sy’n cyfuno rhosod, peian, lilis ac ambr.
Ffres.
- Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol. Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
- Diwrnod Golchi Dillad: persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus. Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
- Diwrnod Spa: persawr bydd yn eich atgoffa o spa foethus, gyda’i ‘hoglau ffres o ffrwythau sitrws, patsiwli, pren gwyn a fanila. Un o’n gwerthwyr gorau
- Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys. Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin. Hyfryd.
- Nos Da: dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol. Perffaith mewn ystafell wely.
Ffrwythus.
- Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
- Gwawrio: arogl bywiog ac adfywiol sy’n cyfuno grawnffrwyth, oren, jasmin a mwsg. Mae’n arogl ysgogol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am arogleuon egnïol. Mae gennym ni yn yr ystafell ymolchi— ac mae’n arogl gwych i ddeffro iddo!
- Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Hydrefol/Cysurlon
- Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’ Mae’n soffistigedig a chymhleth.
- Cwtsh: os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh. Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg. Hyfryd!
- Hwyrnos: tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
- Noson Olau Leuad: rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn. Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
- Stafell Ddarllen: persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys. mae’n boblogaidd tu hwnt!
Darllenwch ymlaen am cyfarwyddiadau o sut i ddefnyddio’r tryledwr car.
- Trowch gaead y botel a thynnu’r stopiwr plastig yn ofalus.
- Rhowch y caead pren yn ôl i dynhau’n ddiogel.
- Gogwyddwch neu trowch y botel wyneb i waered am 1-2 eiliad er mwyn caniatáu i’r persawr gael ei amsugno i’r caead pren.
- Dychwelwch y botel i safle unionsyth a’i hongian yn ddiogel yn eich cerbyd.
- Bydd y persawr sydd wedi’i amsugno i’r caead pren yn rhyddhau arogl yn raddol i’ch car.
I adnewyddu’r persawr, ailadroddwch y broses o droi’r botel wyneb i waered pan fydd yr arogl yn dechrau pylu. Peidiwch â gorddirlawn y caead pren a sychwch unrhyw ollyngiadau ar unwaith. Cadwch y tryledwr yn unionsyth bob amser er mwyn atal gollyngiadau.
Rhybudd: Gall yr olew persawr niweidio tu mewn cerbydau ac arwynebau eraill. Glanhewch unrhyw ollyngiadau ar unwaith a chadwch allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes.




