Disgrifiad
Dathlwch ddiwrnod arbennig eich tad gyda’n cannwyll anrheg ‘Penblwydd Hapus Dad’.
Mae ar gael mewn amrywiaeth o’ch hoff bersawrau, ac mae modd prynu bocs anrheg i fynd gyda hi, hefyd.
Dewiswch o’r persawrau yma:
- Croesi’r Traeth: llenwch unrhyw gartref gyda phersawr ymgodol yr arfordir gyda’r gannwyll hon, gyda’i chyfuniad o siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
- Diwrnod Spa: dyma bersawr adfywiol sy’n cynnwys naws ffrwythau sitrws a sinsir, i greu awel dawel, fywiogus.
- Eirin Du a Rhosyn: gydag elfennau o rosod ac eirin, a mymryn bach o batsiwli, mae hon yn bersawr godidog, sy’n apelio at bawb.
- Stafell Ddarllen: am bersawr unigryw a chymhleth, mae hon yn cyfuno cognac, clof, derw, jasmin, a baco i greu naws bythgofiadwy.
Os hoffwch y gannwyll mewn unrhyw un o’n persawrau bendigedig ar wahân i rain, yna anfonwch neges at post@gweni.co.uk, ac fe fyddwn wrth ein bodd i estyn cymorth i chi ddarganfod y persawr delfrydol.
Os hoffwch focs anrheg i fynd gyda hi, yna mae hwn ar gael ar wahan.
Gwnaed pob un o’n canhwyllau o gwyr soi cynaliadwy, a gydag olew persawr o’r ansawdd gorau. Mae hyn yn sicrhau cannwyll fydd yn llosgi’n arbennig o dda, ac yn lân.
Fe fydd pob cannwyll yn llosgi am oddeutu 50 awr (sicrhewch eich bod chi’n darllen ein Canllawiau Gofal Canhwyllau).
Cofiwch ddychwelyd eich gwydrau gwag i ni, neu ail-ddefnyddiwch nhw.





