Pan es i ati i greu canhwyllau am y tro cyntaf, roeddwn i erioed wedi meddwl byddai cwestiwn am y fath o gwyr fuaswn i yn defnyddio! Ond, ar ôl darllen am y wahanol fathau o gwyr sydd i gael, roedd yn amlwg i mi mae dim ond y cwyr naturiol yr oeddwn i eisiau ddefnyddio.
Cwyr paraffin, neu a ddylen i ddweud, betrol?
Oeddech chi’n gwybod taw paraffin yw’r baw sydd ar ôl pan mae olew yn cael ei neud mewn i betrol!? Roeddwn fethu credu fod canhwyllau paraffin yn cynnwys beth maen nhw’n eu galw’n ‘volatile organic compounds’, gymaint ag sydd mewn mwg sigaréts. Ac, achos maen nhw’n aml yn cael eu cynnu mewn ystafelloedd lle does ‘na ddim llawer o awyriad, maen nhw’n gwneud rhai cyflyrau meddygol yn waeth, er enghraifft, asthma, ecsema, a chyflyrau croen eraill. Felly, mae’r canhwyllau ‘na i ni’n prynu fel trît yn profi’i fod yn unrhyw beth ond! Gan fod y nifer o ganhwyllau yr ydym yn cynnau yn dueddol i fod yn weddol isel, nid yw’r bygythiad yma yn debygol i achos unrhyw niwed i ni, ond os rydych yn hoff o losgi llawer o ganhwyllau, ac efallai ar yr un pryd, mae’r tebygrwydd o gael eich effeithio gan y canhwyllau yma, yn uwch. Felly, mae’n gwneud synnwyr i ddefnyddio canhwyllau gwbl naturiol. Un o arwyr y byd cwyr yw soi, a chwyr naturiol eraill (e.e. cnau coco, gwenyn, olew hadau rêp). Wrth gwrs, yr wyf innau wedi darganfod wrth brynu cyflenwad o gwyr yn aml, bod cwyr soi yn ddrytach i brynu na chwyr paraffin! Dim syrpreis fan ‘na, ‘te. Fy ffefryn o’r cwyr naturiol yma yw cwyr soi, a dewis personol yw hyn. Nid wyf innau’n argymell hwn dros unrhyw un o’r cwyr soi naturiol eraill.Pam cwyr soi?
Felly, wrth ystyried un ai i ddefnyddio cwyr soi neu gwyr paraffin, dyma’r ffeithiau’r nes i ddarganfod.- Mae cwyr soi yn cael ei neud allan o ffa soi (sef, llysiau), felly maen gwbl naturiol. Fel canlyniad, mae’n llosgi’n lanach, heb gynhyrchu’r CO2 sy’n gysylltiedig gyda mwg cwyr paraffin.
- Mae canhwyllau soi yn llosgi am 50% yn hirach na chanhwyllau paraffin. Felly, er mae canhwyllau cwyr soi yn ddrytach na chanhwyllau paraffin, maen nhw’n para’n hirach ac yn well i’ch poced.
- Mae cwyr soi yn llosgi’n lanach na chwyr paraffin. Dydyn nhw ddim yn cynhyrchu’r rhu’n maint o huddygl (sŵt), ac felly ddim yn trochi’ch waliau.(Plîs edrychwch ar ein tudalen Gofal Canhwyllau am fwy o fanylion o sut i losgi canhwyllau yn gywir.)
- Mae toddbwynt canhwyllau soi yn iselach na chwyr paraffin, felly nid ydynt yn llosgi mor dwym.
- Mae’r toddbwynt iselach yma’n cynhyrchu fwy o bersawr na sydd gan ganhwyllau cwyr. Y rheswm am hyn yw bod y toddbwynt isel yn creu fwy o bwll toddi, sy’n taflu mwy o bersawr i’r aer!
