Tryledwr Ystafell Bersawrus Tymhorol-dewiswch eich persawr

£24.00

Llenwch eich cartref gyda phersawr braf a godidog, a fydd yn para am gryn dipyn o amser, gyda Thryledwyr Ystafell Bersawrus Gweni.  Gan gynnwys 10 cl o hylif persawrus, a fydd yn trawsffurfio’r cartref mewn i ofod unigryw, dymunol, mae’r tryledwyr yma ar gael yn eich hoff bersawrau, ac mewn dewis o gyrs ffibr.

Disgrifiad

Tryledwr Ystafell Bersawrus

Llenwch eich cartref gyda phersawr braf a godidog dros y gaeaf hwn, Thryledwyr Ystafell Bersawrus Tymhorol Gweni.  Gan gynnwys 10 cl o hylif persawrus, a fydd yn trawsffurfio’r cartref mewn i ofod unigryw, dymunol, mae’r tryledwyr yma ar gael yn eich hoff bersawrau, ac mewn dewis o gyrs ffibr.

Dewiswch o’r opsiynau isod.

Hydrefol/Clyd
  • Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’  Mae’n soffistigedig a chymhleth.
  • Ar Hyd Y Nos: persawr fflurol soffistigedig, gyda mynawyd y bugail, lili, jasmin a phrennau cysurlon i greu naws rhamantus a chlud sy’n berffaith ar gyfer nosweithiau hir y gaeaf.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!
Nadolig
  • Adfent: persawr nodweddiadol o’r Nadolig, gydag elfennau o oren yn cyfuno gyda sbeisys fesul sinamon, nytmeg a chlof i greu naws cysurlon a chlyd.
  • Canol Gaeaf: mae cymysgedd o ffrwythau’r gaeaf, rhosod, a mwsg yn rhyfeddu gyda’i gilydd yn y persawr hyfryd, melys hwn.
  • Coeden Nadolig: cedrwydden, pîn, pren balsam ac iwcaliptws yw’r arwyr yn y persawr hwn, sy’n adfywiol a hyfryd dros ben.
  • Crwydro’r Coetir: mae’r gaeaf yn amser i fynd am dro drwy’r goedwig, i fwynhau tawelwch a cysgod y coed.  Dyma bersawr sy’n creu’r awyrgylch hynny, gyda’i elfennau o binwydden, balsam, sinamwn a ffynidwydden.
  • Eira: mae yna dawelwch pur pan mae’r eira’n disgyn a dyma bersawr sy’n creu’r naws heddychlon hynny, gyda’i phersawr cysurlon o sitrws, ambr, fanila a mwsg.
  • Nadolig: adfywiol, melys a ffrwythus, dyma elfennau o aroglau llugaeron, lemwn a mafon, ffrwythau’r goedwig, a mwsg, perffaith ar gyfer y Nadolig.
  • Yr Aelwyd: hwn yw’r persawr mwyaf gwrywaidd o’r gyfres, sydd gyda naws ‘cologne’.  Mae’n cynnig elfennau o bergamot, iwcaliptws, sbeisys a chedrwydden, sy’n gysurlon a chynnes.

Mae yna ddewis, hefyd, o gyrs ffibr, lliw naturiol neu du, hir neu fyr.  Os mae gwell gennych y cyrs hir, yna byddwch yn derbyn 8 darn.  Os mae gwell gennych y cyrs byr, yna 5 cors y byddwch yn derbyn.  Defnyddiwch y rhain i gyd, ar unwaith, oni bai eich bod eisiau arogl mwy cain neu wannach.

Darllenwch ymlaen os hoffwch wybodaeth am gael y gorau o’ch tryledwr.

Para’n Hir.  

Fe fydd pob tryledwr yn para tua 6 mis, a mwy.  Sicrhewch eich bod yn:

  • siglo’r botel yn ofalus cyn ei hagor
  • rhoi’r cyrs ffibr i mewn (defnyddiwch bob un)
  • gosodwch mewn lle i ffwrdd o wresogydd, a golau haul cryf
  • trowch y cyrs gôr i waered pob tair wythnos
  • rhowch a’r goster i sicrhau na fydd unrhyw hylif yn sarnu ar eich celfi

Gwnaed â llaw yn ne Cymru, mae pob tryledwr yn cael ei greu mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth ychwanegol

Persawr Tryledwr 1

Adfent, Ambr, Ar Hyd y Nos, Canol Gaeaf, Coeden Nadolig, Cwtsh, Eira, Hwyrnos, Nadolig, Noson Olau Leuad, Stafell Ddarllen, Yr Aelwyd

Reed Colour

Cyrs Ffeibr Naturiol, Du

Reed Size

Cyrs Byr, Cyrs Hir