Toddgwyr Soi Unigol- mewn amrywiaeth o bersawrau

£2.50

Llenwch eich cartref â phersawr hyfryd gyda’n toddgwyr soi bach bendigedig. Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb.

Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.

*Mae 5 am 4 ar gael o’r wefan hefyd.  Dilynwch y linc hon: Pic a Mics Toddgwyr Soi-5 am £10 – Gweni

Disgrifiad

Llenwch eich cartref â phersawr hyfryd gyda’n toddgwyr soi bach bendigedig. Rydym yn tywallt pob toddgwr soi â llaw yng Nghymru, gan gymysgu olewau persawr premiwm gyda blodau a dail bach sy’n addurno’r wyneb.

Mae pob toddgwr yn pwyso tua 22g ac yn rhyddhau hyd at 30 awr o bersawr swynol— wedi’i gynllunio i dawelu, codi’ch ysbryd, neu swyno yn ôl eich dewis o bersawr.

I’w ddefnyddio, tynnwch y label o waelod y toddgwr, a gosodwch yn eich llosgwr.  Efallai bydd angen torri’r toddgwr yn llai; neu os dymunwch, torrwch yn llai i gymysgu gyda toddgwr arall, neu i’w arbed am dro arall.  Ar ôl pob dim, mae pob un yn para’n hir iawn!

Mae’r rhain ar gael yn eich hoff bersawrau. Dewiswch o’r fwydlen islaw. Mae pob darn yn pwyso tua 22g.

Os hoffech fanteisio ar ein cynnig o 5 am £10, yna dilynwch y linc hon: Pic a Mics Toddgwyr Soi-5 am £10 – Gweni

Beth i neud pan ni allwch arogli’r persawr?  Darllenwch ymlaen… Read more... Pan ni allwch arogli’r persawr, yna bydd angen newid y cwyr o’r fowlen. I neud hyn, twymwch y toddgwyr (unai drwy osod cannwyll fach yng ngwaelod y llosgwr, neu drwy droi’r trydan ymlaen am gwpl o funudau os ydych yn defnyddio llosgwr trydanol, teclyn grêt!) ac ar ôl munud neu ddwy bydd y cwyr yn dechrau toddi. Gyda phapur o’r gegin, sychwch yr hen gwyr i ffwrdd. Wedyn, gosodwch ddarn newydd o’r toddgwr i mewn i’r bowlen ac rydych yn barod i fwynhau mwy o bersawr godidog Gweni!

*Cadwch y toddgwr i ffwrdd o blant ac anifeiliaid. Ni ddylai cael ei fwyta!

Gwybodaeth ychwanegol

Weight N/A
Persawr

Cnau Coco, Coeden Nadolig, Croesi'r Traeth, Cwtsh, Diwrnod Golchi Dillad, Diwrnod Spa, Eirin Du a Rhosyn, Ffigysen Felfed, Fflur, Gwawrio, Hiraeth, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Jasmin, Mifi Mafon, Nadolig, Nos Da, Porth Mawr, Rhosyn Fioled, Riwbob, Stafell Ddarllen, Tawel Nos

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.