Eirin Du a Rhosyn-Cannwyll Bersawrus

Price range: £16.00 through £40.00

Cymysgedd cyfoethog o eirin, rhosyn, patswli a fanila — wedi’i ysbrydoli gan beraroglau gwrych a diwedd yr haf yng nghefn gwlad Cymru.

  • Eirin – melyster dwfn, aeddfed
  • Petalau Rhosod – cynhesrwydd blodau rhamantus
  • Patswli– dyfnder priddlyd, daearol
  • Fanila – diweddglo meddal, cysurus

Disgrifiad

Wedi’i ysbrydoli gan harddwch tawel cefn gwlad Cymru, mae’n Gannwyll Eirin Du a Rhosyn yn dal cyfoeth peraroglau diwedd yr haf gyda chynhesrwydd blodau’ ardd.

Mae naws eirin yn creu melyster dwfn, sy’n cydbwyso gyda phetalau rhosod meddal. Wrth i’r gannwyll losgi, mae patsiwli a fanila yn ychwanegu dyfnder cysurus a naws o foethusrwydd gwledig.

Arogl sy’n teimlo’n gartrefol ac yn foethus ar yr un pryd — perffaith ar gyfer nosweithiau araf, cornelau clyd, neu unrhyw foment pan fyddwch eisiau llenwi’r cartref â chynhesrwydd a chroeso. Goleuwch hi a gadewch i’r persawr lifo drwy’r ystafell fel awel feddal dros erddi a pherllannau Cymru.

Gwnaed â llaw mewn niferoedd bach, yng Nghymru. Mae pob un o’n canhwyllau wedi cael eu wneud o gwyr soi.

Ail-ddefnyddiwch y poteli, neu dychwelwch nhw i ni i gael eu hail lenwi, neu am gannwyll newydd am bris rhatach!

Peidiwch byth gadael cannwyll i losgi heb oruchwyliaeth.  Am gyngor o sut i losgi canhwyllau yn ddiogel, darllenwch Gofal Canhwyllau.  

Gwybodaeth ychwanegol

Weight N/A
Dimensions N/A
Maint

, , ,

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.