Diwrnod Spa-Cannwyll Bersawrus

Price range: £16.00 through £40.00

Wedi’i ysbrydoli gan dawelwch spa Cymreig, mae’r gannwyll Diwrnod Spa yn cyfuno gwair lemwn ffres â sinsir cynnes i greu arogl sy’n lân, ysgafn a chysurus. Mae elfennau sitrws yn codi’r ysbryd, tra bod perlysiau meddal ac ewcalyptws ffres yn creu naws heddychlon ac adfywiol.

Wrth i’r gannwyll losgi, mae’r arogl yn cynnig naws heddychlon spa moethus — adfywiol ond yn gysurus, ysgafn ond yn amgylchynu. Perffaith ar gyfer nosweithiau araf, eiliadau tawel, neu pan mae’ch cartref angen ffresni a heddwch.

Rydym yn creu pob cannwyll yn ne Cymru gyda cwyr soi naturiol, ac â llaw, mewn niferoedd bychan.  Ail gylchwch y potiau, neu dychwelwch i ni i’w hail lenwi.  

Gofal Canhwyllau-darllennwch ymlaen….

Read more...

Mae pob cannwyll bersawrus Diwrnod Spa yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon.  I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod. 

  • Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
  • Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen. 
  • Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol.  Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll. 
  • Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal.  Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm.  Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
  • Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.

Our brand new Pick & Mix soy wax melts are now LIVE on the website! Find them under 'MELTS'.

Mae'n toddgwyr soi newydd sbon 'Pic a Mics' nawr yn fyw ar y wefan ac ar gael yn yr adran 'TODDGWYR'.