Adlenwad Tryledwr Ystafell Bersawrus

£20.00

Mae Adlenwad Tryledwr Ystafell yn ddatrysiad perffaith os mae’ch tryledwr wedi gorffen, ond yr ydych eisiau parhau i ddefnyddio’r un gwydr!  Mae’n ffordd o ail-ddefnyddio’r botel, wrth arbed arian i chi ar yr un pryd. Yn y set yma, cewch botel yn cynnwys 100ml o hylif eich hoff dryledwr, a’ch dewis chi o gyrs ffibr:  hir, byr, lliw du, neu naturiol.

Disgrifiad

Mae Adlenwad Tryledwr Ystafell yn berffaith os mae’ch tryledwr wedi gorffen ac rydych eisiau parhau i ddefnyddio’r un gwydr!  Mae’n ffordd o ail-ddefnyddio’r botel, wrth arbed arian i chi ar yr un pryd.

Yn y set yma, cewch botel yn cynnwys 100ml o hylif eich hoff dryledwr, a’ch dewis chi o gyrs ffibr:  hir, byr, lliw du, neu naturiol.  Fe ddylai hwn gynnig tua 5 mis* o bersawr odidog i chi!

Dewiswch o’r opsiynau isod.

Persawrau Fflurol.
  • Eirin Du a Rhosyn:  dyma eirin, jasmin, ffrwythau, patshwli a rhosod yn gweithio gyda’i gilydd i greu arogl ysgafn, soffistigedig.
  • Fflur: bydd y persawr rhyfeddol hwn yn eich atgoffa o gerdded trwy ardd sydd dan ei sang o flodau’r haf, rhosod, pys pêr, a jasmin.
  • Hiraeth: am air sy’n golygu sut gymaint.  Hiraethu am berson, am le, am amser….  Dyma bersawr sy’n hiraethlon, gyda’i chyfuniad o fioled, rhosod, mynawyd y bugail ac ambr.
  • Peian: persawr hudolus, soffistigedig sy’n cyfuno rhosod, peian, lilis ac ambr.
Ffres.
  • Croesi’r Traeth: adfywiol iawn, a chlasur, gyda naws arfordirol.  Cewch siclamen, lili’r dŵr, ambr a mwsg.
  • Diwrnod Golchi Dillad:  persawr ‘glân’ iawn, sy’n creu naws ffres, bywiogus.  Mae’n cynnwys elfennau o fwsg gwyn, iwcaliptws, oren, jasmin a mimosa.
  • Diwrnod Spa:  persawr bydd yn eich atgoffa o spa foethus, gyda’i ‘hoglau ffres o ffrwythau sitrws, patsiwli, pren gwyn a fanila.  Un o’n gwerthwyr gorau
  • Llonyddwch: tebyg iawn i ‘Diwrnod Spa’ ond yn fwy melys.  Mae’n cynnwys leim, basil a mandarin.  Hyfryd.
  • Nos Da:  dyma chyfuniad o iwcaliptws, lafant, a mynawyd y bugail, sy’n arwain at naws tawel, ymlaciol.  Perffaith mewn ystafell wely.
Ffrwythus.
  • Ffigysen Felfed: persawr soffistigedig, a chymhleth gydag elfennau o gwrens duon, ffrwythau’r haf, mafon, ffigysen a mwsg.
  • Gwawrio:  arogl bywiog ac adfywiol sy’n cyfuno grawnffrwyth, oren, jasmin a mwsg. Mae’n arogl ysgogol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n chwilio am arogleuon egnïol. Mae gennym ni yn yr ystafell ymolchi— ac mae’n arogl gwych i ddeffro iddo!
  • Mifi Mafon: persawr felys, ffrwythus, sy’n cynnwys elfennau o naws mafon a fanila.  Mae’n hel atgofion o lolipops ffrwythus!
  • Riwbob: persawr cyfoes a chyfoethog, gyda naws mwyar duon yn gweithio gyda riwbob i greu arogl hyfryd tu hwnt!
Hydrefol/Cysurlon
  • Ambr: fel ‘wedodd cwsmer, ‘Gwmws fel y persawr mewn siop bosh!’  Mae’n soffistigedig a chymhleth.
  • Cwtsh:  os ydych eisiau creu naws cysurlon yn eich cartref, yna dyma Cwtsh.  Persawr sy’n eich gorchuddio gyda’i elfennau o garamel, taffi, coffi, siocled poeth, fanila, siwgr, ambr a mwsg.  Hyfryd!
  • Hwyrnos:  tebyg iawn i ‘Ambr’ ond yn felysach, gyda chedrwydden yn uno â jasmin i greu naws sy’n glasur, ac yn boblogaidd iawn mewn tryledwr.
  • Noson Olau Leuad:  rwy o hyd yn cael fy atgoffa o ‘Mwsg Gwyn’ o’r stryd fawr pan rwy’n profi’r persawr hwn.  Mae’n dyner a thawel ac yn creu naws heddychlon iawn.
  • Stafell Ddarllen:  persawr gwbl unigryw yw hon, gyda chyfuniad o faco, a derw i greu arogl sydd fel mwg melys.  mae’n boblogaidd tu hwnt!

Mae yna ddewis, hefyd, o gyrs ffibr, lliw naturiol neu du, hir neu fyr.  Os mae gwell gennych y cyrs hir, yna byddwch yn derbyn 8 darn.  Os mae gwell gennych y cyrs byr, yna 5 cors y byddwch yn derbyn.  Defnyddiwch y rhain i gyd, ar unwaith, oni bai eich bod eisiau arogl mwy cain neu wannach.

Darllenwch ymlaen os hoffwch wybodaeth am gael y gorau o’ch tryledwr. Para’n Hir.  

Fe fydd pob tryledwr yn para tua 6 mis, a mwy.  Sicrhewch eich bod yn:

  • siglo’r botel yn ofalus cyn ei hagor
  • rhoi’r cyrs ffibr i mewn (defnyddiwch bob un)
  • gosodwch mewn lle i ffwrdd o wresogydd, a golau haul cryf
  • trowch y cyrs gôr i waered pob tair wythnos
  • rhowch a’r goster i sicrhau na fydd unrhyw hylif yn sarnu ar eich celfi

Gwnaed â llaw yn ne Cymru, mae pob tryledwr yn cael ei greu mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth ychwanegol

Reed Colour

Cyrs Ffeibr Naturiol, Du

Persawr

Ambr, Cnau Coco, Croesi'r Traeth, Cwtsh, Diwrnod Golchi Dillad, Eirin Du a Rhosyn, Ffigysen Felfed, Fflur, Gwawrio, Hiraeth, Hwyl a Sbri, Hwyrnos, Jasmin, Llonyddwch, Mifi Mafon, Nos Da, Noson Olau Leuad, Peian, Riwbob, Stafell Ddarllen

Keep the bugs at bay with our citronella and lemongrass 'Summer Garden' tin candle! Find it under 'CANDLE'.

Cadwch y pry i ffwrdd gyda'n cannwyll dun, gyda Sitronela a Gwair Lemon, 'Gardd yr Haf'. Dewch o hyd iddi o dan 'CANHWYLLAU.'.