Disgrifiad
Ar ddiwedd diwrnod prysur, cynnwch ein cannwyll ‘Nos Da’ i’ch annog i arafu ac ymlacio, yn barod am gwsg adfywiol ac heddychlon. Yn cynnwys mynawyd y bugail, lafant, iwcaliptws, a phatshwli, dyma bersawr gostegol ac ysgafn fydd yn siŵr o ddatblygu i mewn i adferiad dyddiol!
Mae pob cannwyll Gweni yn cael ei greu o gwyr soi, ac mewn niferoedd bychan i sicrhau ansawdd, yn ne Cymru. Ail-ddefnyddiwch y gwydr, neu dychwelwch e i mi, i mi gael ei ail-lenwi am bris rhatach i chi.
Gofal Canhwyllau-darllennwch ymlaen!
Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon. I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.
- Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
- Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
- Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
- Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol. Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
- Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal. Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm. Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
- Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.
Os hoffwch fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.




