Disgrifiad
Mae’r gannwyll foethus ‘Penblwydd Hapus’ yma yn ddelfrydol fel anrheg arbennig. Ar gael mewn tri phersawr godidog, mae’n siŵr o blesio. Dewiswch o: Croesi’r Traeth, Diwrnod Spa, ac Eirin Du a Rhosyn. Cyflwynwyd mewn blwch anrheg foethus, gyda’ch dewis chi o liw caead metel: arian, aur, neu gopr. (Mae hefyd ar gael gyda’r label ‘Happy Birthday’. Edrychwch amdano ar y prif dudalen ‘Anrhegion ac Achlysuron’).
Mae gan Croesi’r Traeth persawr arfordirol, ffres, sy’n berffaith i’ch atgoffa o fod ger y môr.
Fe fydd Diwrnod Spa yn creu awyrgylch adfywiol, a ffres, yn y cartref, gyda’i elfennau o ffrwythau sitrws a sinsir.
Persawr fflurol, ffrwythus, soffistigedig, sydd gan Eirin Du a Rhosyn. Mae’n ffefryn gyda phawb.
Fe fydd pob cannwyll yn llosgi am oddeutu 50 awr (sicrhewch eich bod chi’n darllen ein Canllawiau Gofal Canhwyllau).
Cofiwch ddychwelyd eich gwydrau gwag i ni, neu ail-ddefnyddiwch nhw.
Mae Happy Birthday hefyd ar gael.