Sêl!

Coeden Nadolig-Cannwyll Bersawrus

£7.50£9.00

Dewch â hud y tymor i’ch cartref gyda’n Cannwyll Bersawrus Coeden Nadolig, a wneir gyda llaw yng Nghymru. Mae’r gannwyll swynol hon yn cynnwys persawr pinwydden, clof, sinamon, a pimento melys.

Cynnwch y Gannwyll Bersawrus Coeden Nadolig i ymgorffori llawenydd y gwyliau yn eich cartref a chreu atgofion gwerthfawr y tymor hwn.

Ar gael mewn amrywiaeth o feintiau.  Dewiswch o’r Fwydlen.

Disgrifiad

Wedi’i chreu â llaw o gwyr soi, mewn niferoedd bach yn ne Cymru.

Gofal Canhwyllau.

Mae pob cannwyll yn cael eu gwneud gyda chwyr soi o safon, ac wedi eu profi yn ofalus gennym i sicrhau llosg effeithiol ac effeithlon.  I gael y gorau o’ch cannwyll, sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau isod.

  • Wrth losgi cannwyll am y tro cyntaf, wnewch yn sicr ei fod yn cael ei losgi am 4 awr, i alluogi i’r pwll o soi toddedig i gyrraedd ochr y potyn.
  • Peidiwch losgi unrhyw gannwyll am fwy ‘na 4 awr.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob cannwyll yn cael ei gadw’n unionsyth wrth losgi, ac yn glir o lenni, dodrefn meddal, dillad, ac yn y blaen.
  • Diffoddwch bob cannwyll gyda snyffer, yn ddelfrydol.  Peidiwch ddefnyddio dwr i ddiffodd unrhyw gannwyll.
  • Wrth fynd ati i losgi bob cannwyll, rhaid sicrhau nad yw’r wic yn rhy dal.  Torrwch gyda thrimiwr wic, i tua 5 mm.  Os mae’r wic yn rhy hir, byddwch yn fwy tebygol i gael fflam di-ddal, a mawr, sydd yn fwy tebygol o achosi parddu.
  • Sicrhewch nad oes ‘na unrhyw falurion yn y pwll toddedig cwyr, fel darnau o wic neu o fatsis.

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna darllenwch ein Canllawiau Gofal Canhwyllau.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint

, , ,